<p>Effaith Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (Islwyn)</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 2:19, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Ers 2007, mae prosiectau cronfeydd strwythurol yr UE ar eu pennau eu hunain, yng Nghymru, wedi helpu bron i 73,000 o bobl i gael gwaith, wedi helpu dros 234,000 o bobl i ennill cymwysterau, wedi cefnogi’r broses o greu bron i 12,000 o fusnesau ac wedi creu oddeutu 37,000 o swyddi. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau gwariant ar gyfer pob un o’r cynlluniau buddsoddi strwythurol Ewropeaidd a gymeradwyir cyn i’r DU adael yr UE i’w groesawu. Beth fyddai’r effaith ar gymunedau, pobl a busnesau ledled Cymru os nad yw Llywodraeth y DU yn rhoi yn union yr un faint o arian i Gymru ag y mae’n ei gael gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd?