<p>Effaith Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (Islwyn)</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:20, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n siŵr y gall yr Aelod ragweld yr effaith: y byddai’r buddsoddiadau hynny y gallwn eu gwneud, sy’n helpu i lunio’r dyfodol ar gyfer unigolion a chymunedau a sicrhau llwyddiant hirdymor economi Cymru, yn cael eu dal yn ôl pe na bai gennym yr arian sydd wedi ei sicrhau ar ein cyfer ar hyn o bryd yn sgil ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Byddai’n neges ryfedd, rwy’n siŵr y byddai’n cytuno, i’w chyfleu i’w hetholwyr pe na bai Cymru yn gwneud cystal o’i haelodaeth o’r Deyrnas Unedig nag o’i haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.