Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 19 Hydref 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n amlwg o ganlyniad refferendwm yr UE nad oedd y bobl sy’n byw yn Islwyn ac ardaloedd eraill yn Nwyrain De Cymru yn teimlo effaith a budd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Pleidleisiodd dros 50 y cant o bobl yn ardal cyngor Caerffili dros adael yr UE, dros 56 y cant ym Merthyr Tudful, 60 y cant yn Nhorfaen, a 62 y cant ym Mlaenau Gwent. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod y ffigurau hyn yn dangos methiant llwyr y Blaid Lafur i amlygu budd aelodaeth o’r UE yn ei chadarnleoedd, wedi iddi gael ei llesteirio gan gefnogaeth lugoer Jeremy Corbyn dros ‘aros’, a sut y bydd eich Llywodraeth yn ychwanegu at y cyllid i gymoedd Dwyrain De Cymru yn y dyfodol agos?
Ofnaf, Ddirprwy Lywydd, fod hyn yn ymdebygu i gyrraedd y sinema a gweld rîl o hen ffilm yn dal i droi o’ch blaen. Wrth gwrs fy mod yn ymwybodol o ganlyniadau’r refferendwm. [Chwerthin.] Rwyf yr un mor sicr na phleidleisiodd y bobl yn y cymunedau hynny y cyfeiriodd atynt dros ddyfodol tlotach a mwy anghenus.