<p>Cyllid Llywodraeth Leol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 2:22, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn falch o groesawu’r cyhoeddiad ddoe y byddwch yn diogelu cyllid llywodraeth leol yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, ac edrychaf ymlaen at glywed rhagor o fanylion gennych ynglŷn â sut y byddwch yn blaenoriaethu’r broses o dargedu ein hawdurdodau lleol mwyaf anghenus. Mae’r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf fodd bynnag fod Llywodraeth Cymru o blaid dirwyn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben, a diwedd ymddangosiadol Her Ysgolion Cymru yn dawel bach yn y gyllideb ddoe, yn gwneud i mi boeni bod Llywodraeth Cymru yn dechrau llacio ei hymrwymiad i dargedu adnoddau at y cymunedau mwyaf anghenus yng Nghymru. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi heddiw nad yw hynny’n wir?