<p>Cyllid Llywodraeth Leol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:23, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, fel y dywedais yn ystod y datganiad ar y gyllideb ddoe, nid yw penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei sbarduno gan ystyriaethau cyllidebol. Mae’n cael ei sbarduno gan awydd i wneud gwell defnydd o’r cyllid a ddefnyddiwyd at y dibenion hynny yn y gorffennol, a dod ag ef ynghyd â chyllidebau ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg a cheisio sicrhau ein bod yn cael mwy o effaith yn y cymunedau hynny y mae hi’n eu cynrychioli mor rheolaidd ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol. O ran y rhaglenni addysg, roedd yna ddwy raglen â therfynau amser na fyddai fel arfer wedi cael unrhyw gyllid y flwyddyn nesaf. Yn yr amgylchiadau a wynebwn, mae’n amhosibl i ni barhau â phob dim, yn enwedig pan fo cynlluniau wedi’u nodi’n benodol fel rhai ag oes gyfyngedig. Nid oedd modd i ni barhau â Her Ysgolion Cymru, ond gallasom fwrw ymlaen â’r grant amddifadedd disgyblion, sydd â goblygiadau cyllidebol llawer mwy, a dyblu’r grant amddifadedd disgyblion ar gyfer plant yn eu blynyddoedd mwyaf cynnar a ffurfiannol. At ei gilydd, credaf eu bod yn dangos ymrwymiad parhaus y Llywodraeth hon i’r agendâu y mae hi wedi’u hyrwyddo mor effeithiol.