Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 19 Hydref 2016.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Nid wyf yn gwybod a weloch raglen ‘Who’s Spending Britain’s Billions?’ neithiwr ar BBC 2, ond roedd yn amlinellu cydweithrediad nad yw pobl o bosibl yn meddwl ei fod yn teilyngu gwario miliynau o bunnoedd arno—pan ofynnwyd yn benodol i arweinydd Plaid Cymru Ceredigion ynglŷn â chontract gyda PricewaterhouseCoopers, a gwario’r swm mawr hwnnw o arian ar gael eu hysbysu sut i gau cyfleusterau er mwyn arbed arian, a sut i breifateiddio gwasanaethau lleol. Felly, wrth i chi feithrin rhagor o gydweithrediad rhwng awdurdodau lleol, Ysgrifennydd y Cabinet, a chydweithredu ariannol hefyd, os gwelwch yn dda, a wnewch chi edrych yn ofalus ar y defnydd o’r hyn a elwir yn gontractau risg a gwobr? Oherwydd roeddwn innau hefyd y tu allan ddoe gyda chynrychiolwyr Unsain, sy’n teimlo’n ddig ynglŷn â’r defnydd hwnnw o arian, a hynny’n hollol iawn yn fy marn i.