Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 19 Hydref 2016.
Diolch am y cwestiwn. Ofnaf na welais y rhaglen deledu. Treuliais y noson yng nghwmni fy ffolder gwestiynau a’r cyngor roedd ei angen arnaf cyn ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid y bore yma. Ond clywaf yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud, ac wrth gwrs, byddaf yn ei ystyried yn ofalus yn fy sgyrsiau nesaf ag awdurdodau lleol.