6. 5. Dadl Plaid Cymru: Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:02, 19 Hydref 2016

Rwyf am siarad yn fyr am sut y mae llywodraeth leol effeithiol yng Nghymru yn hanfodol ar gyfer cynnal gwasanaethau iechyd drwy eu gwaith nhw ym maes gofal cymdeithasol. Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol da yn gwbl hanfodol, wrth gwrs, i helpu i gadw pobl allan o ysbytai neu, os oes angen iddyn nhw dderbyn triniaeth ysbyty, i’w caniatáu iddyn nhw gael eu rhyddhau o’r ysbyty yn brydlon.

Yn anffodus, mae gofal cymdeithasol wedi cael ei ystyried yn draddodiadol, rywsut, i fod yn gefnder tlawd i’r gwasanaeth iechyd, ac mae hynny wedi arwain at danfuddsoddi mawr yn hanesyddol. Mae cyflogau’r gweithlu yn rhy isel, ac mae cytundebau dim oriau yn dal yn cael eu defnyddio, a hynny’n aml iawn yn cael ei yrru gan dangyllido. Ac mae’r berthynas, rwy’n meddwl, rhwng gofal cymdeithasol a gofal iechyd yn cael ei chamddeall, braidd, hefyd. Mae’r ffaith bod y Ceidwadwyr yn San Steffan wedi llwyddo i dwyllo pobl mewn difrif drwy ddweud eu bod nhw’n torri cyllidebau llywodraeth leol er mwyn talu am amddiffyn cyllid yr NHS yn dangos cyn lleied y ddealltwriaeth sydd yna o’r berthynas gwbl symbiotig yma rhwng y gwasanaethau mewn gwirionedd, ac mae yna farn eang iawn mai effaith y toriadau yna i lywodraeth leol oedd yr argyfwng yn yr adrannau gofal brys yn Lloegr yn ôl yn 2012. Yma yng Nghymru, mi wnaeth y Gweinidog iechyd blaenorol roi bai mewn difrif am bwysau ar adrannau brys ar y diffyg ym maes gwasanaethau cymdeithasol a oedd ar gael i helpu pobl allu cael eu rhyddhau o’r ysbytai yn brydlon. Mae’n amlwg bod hynny’n broblem, a dyna pam mae’r gair ‘integreiddio’ yma wedi bod yn un mor bwysig. Os integreiddiwn ni ein gwasanaethau o ddifrif a chofio ar bob lefel bod angen i ofal cymdeithasol a gofal iechyd gael eu cynllunio ar y cyd, wel mae yna fwy o siawns y cawn ni un gwasanaeth llyfn, gyda phobl yn camu i fyny i’r ysbyty ac yn camu yn ôl i lawr i ofal cymdeithasol yn ddirwystr a heb ffiniau gweinyddol na chyllidol yn atal hynny. Rydym i gyd yn gytûn ar hynny, mae’n ymddangos, ond eto, er gwaethaf yr enghreifftiau lleol o gydweithio da sydd yna, heb os, nid yw’r geiriau’n dal ddim i’w gweld yn cael eu troi’n weithredoedd gwirioneddol drawsnewidiol.

Mae yna ffyrdd ehangach lle y gall llywodraeth leol effeithiol gyfrannu tuag at greu cenedl fwy iach, a gwnaf sôn am rai ohonyn nhw. Mi oeddem ni, fel rhan o’r cytundeb ar y gyllideb, yn falch iawn o allu sicrhau nad oedd toriad ‘cash’ yng nghyllidebau rhaglen Cefnogi Pobl. Dyma i chi raglen sy’n arbed arian, wrth gwrs. Mae digartrefedd wastad yn costio mwy i’r pwrs cyhoeddus i ddelio ag o na fyddai’n costio i’w hatal, felly mae gwneud yn siŵr bod gan lywodraeth leol rôl gref i’w chwarae mewn taclo digartrefedd yn rhywbeth sydd nid yn unig yn rhywbeth rydym yn dymuno ei weld yn digwydd a rhywbeth sy’n foesol gywir, ond mae’n gost-effeithiol hefyd, o siarad yn gwbl blaen. Mae rôl llywodraeth leol ym maes tai yn ehangach—taclo safonau tai isel, taclo gorlenwi o fewn tai—hefyd yn bwysig o ran cadw pobl yn iach, ac felly arbed arian i’r NHS. Mae buddsoddi mewn addasiadau i dai hefyd, wrth gwrs, yn ffordd bwysig o ganiatáu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain.

Edrychwch ar faterion amgylcheddol, trafnidiaeth leol, a’r system gynllunio hefyd, byddwn i’n dweud. Pan mae’r rhain yn effeithiol, maen nhw’n gallu bod yn hwb enfawr o ran pethau fel teithio llesol, ac annog pobl i fod yn weithgar yn eu cymunedau. Dyma’r math o bethau sydd yn dda i iechyd pobl.

Felly, mae gwasanaethau cyhoeddus yn gyd-ddibynnol. Rwy’n gobeithio y gallwn ni gytuno ar hynny. Mae’n anochel bod methiant mewn un rhan o’r system yn mynd i roi straen ar rannau eraill o’r system. Pam y mae methiant yn digwydd? Mae cyflwyno toriadau heb ystyried goblygiadau yn un ffordd fawr mae hyn yn digwydd. Mae torri mewn un maes yn aml iawn yn arwain at yr angen i wario mwy yn y pen draw—ac rwy’n cyfeirio nôl eto at y trafferthion yna mewn gofal brys yn Lloegr ychydig flynyddoedd yn ôl. Ond mae llywodraethiant sâl yn broblem arall, ac fe wnaeth comisiwn Williams dynnu sylw at sawl enghraifft o lywodraethiant sâl. Petasai’r comisiwn wedi edrych ar y gwasanaeth iechyd, rwy’n siŵr y bydden nhw wedi canfod problemau yn y fan yna hefyd, ac mae nifer y byrddau sy’n wynebu amrywiol lefelau o ymyrraeth ar hyn o bryd yn brawf o hynny.

Felly, i gloi, mae’n glir bod sgrwtini o wasanaethau cyhoeddus yn gorfod gwella. Mae hynny’n gyfrifoldeb ar ein hysgwyddau ni i gyd, wrth gwrs, bob un ohonom ni, ond mae o’n ymwneud hefyd ag ymrymuso pobl allan yna—pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Mae yna gamau y gallwn ni eu cymryd, fel pleidleisio yn ifancach, cyflwyno pleidleisio yn 16 oed, newid y gyfundrefn bleidleisio, i sicrhau bod pobl sy’n defnyddio’n gwasanaethau ni yn cael gwir ddylanwad arnyn nhw.