Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 19 Hydref 2016.
Mae’r cwestiwn ynglŷn â senedd ieuenctid—neu gynulliad ieuenctid yn wir, fel y cyfeiriodd Lynne Neagle ato, ac fel y byddwn i’n ei ffafrio hefyd rwy’n meddwl—yn un sydd wedi’i drafod sawl gwaith yn y Cynulliad hwn gan nifer o gyn-Aelodau Cynulliad ac Aelodau presennol dros y blynyddoedd, ond nid ydym erioed wedi cyrraedd yno’n iawn—ddim eto, yn sicr.
Mae hyn yn y pen draw yn ymwneud â democratiaeth—cynyddu cyfranogiad ieuenctid a chynyddu niferoedd pleidleiswyr, ac rwy’n meddwl y byddem i gyd am wneud hynny. Ar hyn o bryd, mae Cymru yn un o chwe gwlad ddatganoledig heb senedd ieuenctid, ac nid yw hynny’n ddigon da. Nid ni’n unig sy’n dweud hyn, nid yr ACau ar draws y pleidiau yn unig sy’n dweud hyn; mae’r Cenhedloedd Unedig yn cytuno. Fel y dywedwyd eisoes, credant y byddai senedd ieuenctid yng Nghymru yn ffordd allweddol o gefnogi erthygl 12. Mae’r comisiynydd plant hefyd wedi dweud rhywbeth tebyg. Mae’r comisiynydd plant yn gweld senedd fel cyfrwng ar gyfer ymgysylltu ac etholfreinio. Roedd senedd ieuenctid yn ymddangos ym maniffesto mwy nag un o’r pleidiau, felly mae hwn yn un o’r materion sy’n wirioneddol drawsbynciol ar draws pob plaid, a byddai’n cael cefnogaeth eang pe bai’n digwydd.
Ond er bod Aelodau fel Lynne Neagle wedi bod yn ymgyrchu ers amser maith dros y math hwn o ddatblygiad, nid yw’n flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru o hyd, neu’n sicr ni fu’n flaenoriaeth nes yn awr. Dyna’r rheswm pam y cyflwynwn y ddadl hon heddiw—i ddangos nad un plaid yn unig sydd eisiau senedd ieuenctid, ond yr holl bleidiau, y Cynulliad yn gyfan. Hoffem weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth yn y maes i sefydlu hyn neu fecanwaith priodol.
Nid yw hyn yn ymwneud yn unig â rhoi llais democrataidd i bobl ifanc. Mae hefyd yn ymwneud â chreu cyfrwng newydd a all ddarparu trefn graffu fwy cadarn i’r prosesau democrataidd yng Nghymru. Bydd pobl ifanc yn gallu rhoi tystiolaeth yn fwy uniongyrchol i bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol, fel y crybwyllodd Mohammad Asghar. Ond gadewch i ni fynd yn ôl at fater ymgysylltu, sydd, yng Nghymru, gadewch i ni ei wynebu, ar lefel isel yn hanesyddol. Dangosodd archwiliad gan Gymdeithas Hansard o ymgysylltiad gwleidyddol yn 2014 mai 30 y cant yn unig o bobl ifanc sy’n sicr o bleidleisio, ond fel y gwyddom, byddai 58 y cant yn barod i wneud rhywbeth pe baent yn teimlo’n ddigon cryf. Felly, mae gan bobl ifanc ymagwedd wahanol tuag at wleidyddiaeth—gwahanol i’r cenedlaethau hŷn, beth bynnag. Mae’n un y dylem ei chydnabod a dylem ddarparu mecanweithiau a chyfryngau sy’n cyd-fynd â hynny.
Nawr, nid wyf yn sefyll yma’n datgan mai senedd ieuenctid yw’r ateb i bob dim ac y bydd yn newid popeth er gwell dros nos. Byddai’n hurt honni hynny. Ni fydd yn gwneud hynny. Nid wyf yn credu bod gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed yn ateb i bob dim chwaith. Yn wir, yn y gorffennol yn y Siambr hon, nid wyf wedi cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio. Rhaid i mi gyfaddef bod fy marn ar y mater wedi newid, ond pa un a yw’n ymwneud â’r oedran pleidleisio neu â’r senedd ieuenctid, credaf nad yw’r un o’r rhain ar eu pen eu hunain yn fecanweithiau digonol i gynyddu ymgysylltiad ieuenctid. Ond gyda’i gilydd fel pecyn, credaf y byddai’n gyfrwng i allu symud y dadleuon yn eu blaenau. Rwyf wedi dod i’r casgliad fod hon yn un ffordd allweddol y gallem wneud hyn. Rydym am i bobl ifanc gymryd rhan, felly mae’n rhaid i ni ymgysylltu â hwy a hwythau â ninnau. Mae’n broses symbiotig.
Rwy’n dychmygu y byddem i gyd am weld y ganran sy’n pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ar yr un lefel ag etholiadau cyffredinol yn San Steffan, ac mae denu pobl ifanc i gymryd mwy o ran yn y broses yma yn y Cynulliad yn gam tuag at wneud hynny. Ond ni fydd yn digwydd drwy eiriau’n unig, ac rwy’n credu ei bod yn bryd i ni weld gweithredu ar hyn er mwyn cael y pethau hyn wedi’u gwneud.
Ganed Senedd Ieuenctid y DU yn 1999, yr un flwyddyn ag y ganed y Cynulliad hwn, felly efallai nad ydym mor bell â hynny ar ei hôl hi, ond mae gennym lawer o waith caib a rhaw i’w wneud, a pho gyntaf y dechreuwn, y cynharaf y byddwn yn cyrraedd. Fel y clywsom, mae ardaloedd eraill wedi ei wneud. Sefydlodd Gogledd Iwerddon fforwm ieuenctid yn ôl yn 1979. Canmolwyd sefydliad yr Alban am ei fod yn cynnig un o’r lefelau uchaf o gyfranogiad ieuenctid a geir yn unman. Felly, heb fod mor bell â hynny yn y Deyrnas Unedig hon, mae seneddau ieuenctid a fforymau ieuenctid wedi bod yn gweithio, a byddant yn parhau i weithio yn y dyfodol. Ymhellach i ffwrdd, yn Awstralia, gellir pasio Biliau ieuenctid ymlaen i’r Senedd go iawn eu hadolygu. Felly, mae pobl ifanc yn teimlo’n rhan go iawn o’r broses gyffredinol yn Awstralia ar oedran ifanc iawn.
Ni fydd hyn yn gweithio yma os nad oes gennym gysylltiadau cryf rhwng ysgolion, cyfleusterau addysgol eraill a’r senedd ieuenctid neu’r cynulliad ieuenctid newydd rydym am ei greu. Fel y dywedodd Mohammad Asghar yn ei gyfraniad, mae hyn yn ymwneud â chreu democratiaeth iach a bywiog yn gyffredinol. Nid yw pobl ifanc yn bobl ifanc am byth. Hwy yw pobl hŷn yfory. Roeddem i gyd yn perthyn i’r genhedlaeth iau unwaith—llawer ohonom o leiaf, rwy’n credu—ac rydym ni yma yn awr. Felly, gadewch i ni fwrw ymlaen â’r gwaith. Iawn, gadewch i ni siarad am hyn yn y ddadl hon heddiw a gadewch i ni gytuno bod angen senedd ieuenctid, ond gadewch i ni fwrw ymlaen â gosod y sylfeini hynny heddiw fel y gall y senedd ieuenctid fod yn weithredol cyn gynted ag y bo modd ac er mwyn i ni allu bwrw ymlaen â chreu democratiaeth lawer iachach a mwy bywiog yng Nghymru.