Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 19 Hydref 2016.
Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i siarad heddiw. A gaf fi hefyd ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am adael i’r Cynulliad ddefnyddio peth o’u hamser dadlau ar gyfer y ddadl bwysig hon?
Rwy’n falch iawn o siarad o blaid y cynnig hwn heddiw, oherwydd rwy’n credu o ddifrif fod yr angen am senedd ieuenctid yn gwbl amlwg. Rwy’n falch o’r rôl y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi chwarae yn hyrwyddo hawliau plant ac rwy’n falch fod y Cynulliad hwn wedi arwain y ffordd yn y byd gyda chefnogaeth drawsbleidiol i’n Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 hefyd.
Roeddwn yn siomedig, yn 2014, pan benderfynodd Llywodraeth Cymru roi’r gorau i ariannu’r Ddraig Ffynci, a nodais wrth Weinidogion ar y pryd fy mod yn teimlo y byddai wedi bod yn well gweithio gyda’r Ddraig Ffynci a sefydliadau gwirfoddol ar gyfer plant yng Nghymru i ddod o hyd i ffordd o gynnal senedd ieuenctid yng Nghymru.
Ym mis Mehefin eleni, rhoddodd y Cenhedloedd Unedig eu dyfarniad ar y cynnydd a wnaed ar gyflawni hawliau plant yng Nghymru yn dilyn adolygiad ledled y DU. Gwnaeth fwy na 150 o argymhellion ac un o’r pryderon a fynegwyd oedd nad oedd safbwyntiau plant yn cael eu clywed yn systematig wrth lunio polisïau ar faterion sy’n effeithio arnynt. Nodai nad oes senedd ieuenctid yng Nghymru ac argymhellodd y dylid sefydlu un fel mater o flaenoriaeth.
Rwyf wrth fy modd fod Comisiwn y Cynulliad yn datblygu’r cynllun hwn ac yn croesawu’n wirioneddol yr ymrwymiad personol y mae’r Llywydd wedi ei roi i wneud hyn yn flaenoriaeth heddiw. Er gwaethaf fy sylwadau cynharach am y penderfyniad i roi’r gorau i ariannu’r Ddraig Ffynci, rwy’n credu bod cael senedd ieuenctid wedi’i sefydlu gan y Cynulliad hwn yn llawer gwell, yn fy marn i, na chael un sy’n cael ei hariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Gobeithiaf y bydd yn fwy annibynnol ac yn rhoi llais llawer cryfach i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Hoffwn gofnodi fy niolch i’r Ymgyrch dros Gynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru am y gwaith y maent wedi’i wneud i hyrwyddo’r mater hwn, ac am yr ymgynghoriad y maent wedi’i gynnal gyda phobl ifanc ar yr hyn y dylai senedd fod. Rwy’n siŵr ein bod i gyd yn edrych ymlaen at weld manylion yr ymgynghoriad hwnnw, ond fel y mae Darren Millar wedi dweud eisoes, mae’n wych gwybod bod 92 y cant o’r ymatebwyr wedi cefnogi sefydlu senedd ieuenctid ac y byddai 85 y cant o’r ymatebwyr yn hoffi gweld y senedd yn cael ei gwneud yn barhaol a’i gwarchod mewn cyfraith. Ac rwy’n gobeithio bod hynny hefyd yn rhywbeth y bydd y Comisiwn yn edrych arno.
Roeddwn am gloi drwy ddweud ychydig eiriau am yr angen i sicrhau’r cyfranogiad ehangaf posibl gan bobl ifanc yng Nghymru mewn senedd yn y dyfodol. Rwy’n meddwl bod yna risg bob amser fod seneddau o’r fath yn tueddu i ymgysylltu â’r bobl ifanc mwy huawdl a hyderus—ac rwy’n dathlu’r ffaith fod gennym y bobl ifanc hyn yng Nghymru—ond prawf o senedd wirioneddol gynrychioliadol fydd pa mor effeithiol y mae’n sicrhau ein bod yn clywed lleisiau rhai o’r bobl ifanc hynny nad yw eu lleisiau fel arfer yn cael eu clywed. Credaf y gallwn ddysgu o arferion da yn hyn o beth, ac rwy’n gobeithio y bydd y Comisiwn yn edrych ar hyn. Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i wasanaethau ieuenctid yng Nghymru, dysgais am brosiect sy’n cael ei gyflawni gan Glybiau Bechgyn a Merched Cymru o’r enw Not the Usual Suspects, prosiect a gynlluniwyd i ymgysylltu â phobl ifanc nad oes neb yn ymgynghori â hwy fel arfer. Yn rhan o hynny, datblygwyd ap o’r enw ‘Politically Incorrect’. Rwy’n credu bod angen i ni edrych ar bob arfer da i wneud yn siŵr, wrth symud ymlaen, ein bod yn ymgysylltu â’r nifer ehangaf o bobl ifanc, ac adeiladu ar y gwaith ardderchog y mae’r Comisiwn eisoes yn ei wneud yn ymgysylltu â phobl ifanc.
Yr wythnos diwethaf, cefais y fraint o gael gwahoddiad i fforwm a drefnwyd gan y comisiynydd plant i rai rhwng 15 a 24 oed yng Nghymru sydd â phrofiad o dderbyn gofal, gyda Llyr Gruffydd, Darren Millar a Carl Sargeant. Yno, clywsom gan bobl ifanc am eu profiadau hynod o bwerus ac ysgytwol yn y system ofal yng Nghymru. Er gwaethaf yr holl heriau roeddent wedi’u hwynebu, siaradodd y bobl ifanc hyn yn rymus ac yn bwerus am eu hanghenion. Rwy’n gobeithio y bydd unrhyw senedd ieuenctid yn sicrhau mai’r rheini yw’r mathau o leisiau rydym am wneud yn siŵr eu bod yn cael eu clywed hefyd—bydd senedd ieuenctid sy’n mynd i’r afael ag anghenion y bobl ifanc fwyaf difreintiedig yn un y gallwn i gyd fod yn falch iawn ohoni yng Nghymru. Diolch.