Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 19 Hydref 2016.
Hoffwn yn gyntaf ddiolch i’r pwyllgor am eu gwaith ar Fil Cymru ac am yr adroddiad cynhwysfawr a gynhyrchodd y pwyllgor. Mewn egwyddor, mae’r newid o fodel rhoi pwerau i fodel cadw pwerau yn gam cadarnhaol. Fodd bynnag, fel nododd y pwyllgor, mae’r Bil yn un cymhleth ac anhygyrch. Mae’r newid i fodel cadw pwerau felly yn cael ei danseilio gan y cymhlethdod hwnnw a chan nifer y cymalau cadw sydd wedi’u cynnwys yn y Bil. Mae’r pwerau a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU mor niferus nes peri i rywun feddwl tybed pa feysydd o gymhwysedd deddfwriaethol sy’n cael eu gadael i Gynulliad Cymru ar ôl ystyried yr holl gymalau cadw. Mae’r ffordd y mae’r cymalau cadw wedi’u drafftio yn eu gwneud yn agored i fod yn destun anghytundeb rhwng y Cynulliad a Llywodraeth y DU o ran yr hyn sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Ni fydd yr oedi anochel tra bydd materion o’r fath yn cael eu datrys yn gymorth i sicrhau llywodraethu da ac effeithiol yng Nghymru. Mae’r ffaith nad yw’r cymalau cadw yn gwneud synnwyr mewn rhai achosion yn dangos diffyg sylw a diffyg meddwl ymlaen llaw ar ran Llywodraeth y DU. Mae’r ffaith fod cymhwysedd deddfwriaethol yn cael ei dynnu’n ôl mewn rhai achosion yn destun pryder mawr. Cytunaf yn llwyr â’r pwyllgor nad yw’r Bil hwn yn darparu setliad cyfansoddiadol parhaol ar gyfer Cymru. Efallai pe bai Llywodraeth y DU wedi ymgynghori’n iawn â’r Cynulliad hwn ar Fil Cymru, yn hytrach na gosod setliad datganoli newydd ar Gymru oddi fry fel petai, ni fyddem yn awr yn cyfarch y Bil hwn â marc cwestiwn mawr.
Fodd bynnag, mae’r ffaith fod pŵer deddfwriaethol yn dychwelyd o Frwsel i’r DU yn rhoi cyfle euraidd i Gymru gael trafodaeth aeddfed â Llywodraeth y DU ynglŷn â rhannu cymhwysedd deddfwriaethol yn briodol rhwng deddfwrfa’r DU a’r Cynulliad. Cyflwynwyd rhecsyn i’r pwyllgor, ac aeth yr argymhellion ati’n lew i wnïo rhywbeth ystyrlon ohono. Buaswn yn annog Llywodraeth y DU i fynd ati o ddifrif i ystyried argymhellion y pwyllgor. Serch hynny, yn fy marn i, mae angen ailfeddwl o’r bôn i’r brig ac ailysgrifennu’r Bil.
Rwy’n cydymdeimlo â’r Llywydd, sydd â’r dasg anodd o’n llywio drwy’r cawdel hwn o statud pan ddaw i rym. Diolch.