8. 7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei Ymchwiliad i Fil Cymru Llywodraeth y DU

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:38, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddechrau drwy longyfarch Cadeirydd newydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar arwain y pwyllgor a’r ysgrifenyddiaeth i gynhyrchu’r hyn rwyf yn ei ystyried yn adroddiad rhagorol? Roedd yn rhaid ei wneud yn gyflym iawn yn ystod dyddiau cynharaf y Cynulliad hwn. Rwy’n credu ei bod yn ddogfen bwerus, ac rwy’n arbennig yn ddiolchgar i’r holl swyddogion a’n helpodd ni i ddrafftio’r adroddiad. Mae’n arwydd rhagorol, rwy’n credu, o ansawdd staff y Comisiwn, os caf ddweud, Lywydd.

A gaf fi ddechrau drwy ddweud fod y Bil mewn gwirionedd yn hael mewn sawl ffordd? Mae’r datganiad am barhauster, rwy’n credu, yn mynd â ni mor bell ag y gallwn fynd yn ein cyfansoddiad lled-ffederal tuag at sefydlu cyfraith sylfaenol a bod y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn sefydliadau sylfaenol.

Rwy’n credu bod cymhwysedd mewn perthynas ag etholiadau’r Cynulliad, gan gynnwys etholfraint a systemau etholiadol, yn bwysig iawn hefyd. Rydym wedi clywed sawl cyfeiriad y prynhawn yma at y bleidlais sengl drosglwyddadwy mewn llywodraeth leol a’r posibilrwydd o ostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed. Wel, yn fuan bydd gennym bŵer i benderfynu ar y materion hyn. Hefyd, roedd cael gwared ar y prawf angenrheidrwydd mewn perthynas â chyfraith breifat a chyfraith trosedd yn newid i’w groesawu’n fawr o’r Bil drafft. Fodd bynnag, fel y mae’r pwyllgor yn ei nodi, gellid gwella’r Bil hwn mewn rhai ffyrdd allweddol i wireddu’r dyhead am setliad llawnach a mwy cadarn. Rwy’n cofio, pan oeddwn yn Gadeirydd ar y pwyllgor ac roedd gennym yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd ger ein bron, cafodd ei ganmol gennym am y weledigaeth honno o setliad llawn a chadarn—uchelgais anodd. Ond mewn rhai agweddau, fel rydym wedi clywed, nid ydym wedi cyrraedd y safon honno eto.

Rwy’n credu y dylai rhyw brawf arall ddisodli’r profion angenrheidrwydd sy’n parhau mewn meysydd a gedwir yn ôl, er enghraifft un sy’n rhoi pwerau ategol i ni newid cyfraith Cymru a Lloegr. Mater technegol yw hwn ar sawl ystyr, ond mae’n bwysig iawn caniatáu i’n cymhwysedd i ddeddfu weithio’n effeithiol. Heb y cwmpas a’r hyblygrwydd hwnnw, gallwch fod yn brin o egni i ddefnyddio’r hyn sy’n ymddangos yn bwerau eithaf eang dros dai, addysg neu iechyd, dyweder. Rwy’n ofni y gallem orfod mynd yn ôl i’r Goruchaf Lys yn y pen draw, neu ddadlau â Llywodraeth y DU am y lle i gael cyfraith wirioneddol effeithiol. Mae’r rhestr o gymalau cadw yn parhau i fod yn llawer rhy hir ac mae’n cynnwys, fel y clywsom, trwyddedu gwirodydd meddwol neu fangreoedd sy’n eu gwerthu. Fel y mae K.O. Morgan, yr hanesydd gwych, yn nodi, roedd gan Gymru reolaeth dros ei thafarndai cyn iddi gael rheolaeth dros ei heglwys, neu o leiaf cyn datgysylltu’r eglwys Anglicanaidd, ac yn awr rydym yn mynd i weld setliad na fydd yn rhoi’r pŵer hwnnw i ni. Wrth fynd heibio, Lywydd, rwy’n cofio cymryd rhan yn y gyfres ddiwethaf o refferenda ar agor ar y Sul. Cafwyd pleidlais yng Nghaerdydd ym 1989, ac rwy’n credu mai dyna pryd y penderfynodd Ceredigion ganiatáu tafarndai i agor ar y Sul, er gwaethaf ymbil undeb y myfyrwyr yn Aberystwyth, a oedd yn elwa’n arbennig ar ddydd Sul ac yn hapus iawn gyda’r trefniadau mwy cyfyngedig. Ond, hynny yw, rwy’n credu ei bod yn hurt i ni beidio â chael pwerau dros drwyddedu. Hefyd, dylai trosglwyddo pwerau gweithredol ddilyn yr un drefn â Deddf yr Alban. Mae’n dal i fod yn ddirgelwch i mi pam nad yw hyn yn digwydd yn llawn hyd yn oed yn awr.

Ond a gaf fi dynnu nodi rhywbeth fel aelod o’r pwyllgor a chyn-gadeirydd? Y rhwystr gwirioneddol i setliad terfynol yw diffyg consensws gwleidyddol ar gwestiwn awdurdodaeth Gymreig. Rydym yn y sefyllfa ryfeddaf a mwyaf afreolaidd o ran model San Steffan, lle mae gennym ddeddfwrfa nad oes ganddi awdurdodaeth. Mae’n peri i rywun feddwl tybed beth rydym i fod i’w wneud yma os nad pasio deddfau er lles y bobl. Neu, o’i roi mewn ffordd arall: rydym mewn un awdurdodaeth sydd â dwy ddeddfwrfa. Mae hon yn ffordd ryfedd iawn o fwrw ymlaen, ac mae’n gwneud model cadw pwerau go iawn yn anodd iawn i’w ddarparu. Gellir gweld yr amharodrwydd i fynd i’r afael â’r cwestiwn hwn yn fwyaf clir, rwy’n credu, mewn perthynas â phwerau plismona, lle mae plismona cymunedol ym mron pob un o’r systemau canoledig hyn, yn cael ei roi i’r sefydliadau datganoledig, ac yna caiff swyddogaethau plismona uwch eu cadw gan y wladwriaeth. Dyma sy’n digwydd yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban, ac mae ar fin digwydd ym mhrif ddinasoedd Lloegr. Felly, byddwn yn cael ein goddiweddyd yn ein setliad ein hunain hyd yn oed.

A gaf fi gloi drwy ddweud fy mod yn credu bod modd gweithio ar y Bil hwn? Rwyf hefyd yn credu y bydd yn rhaid cael rhywbeth yn ei le yn ôl pob tebyg. Ni fydd yn ‘bedwerydd Bil a dyna fo’, fel y dywedodd un aelod uchel iawn o’r farnwriaeth. Yn ôl pob tebyg, bydd rhaid i ni gael pumed Bil Llywodraeth Cymru. Ond er mwyn i’r Bil hwn weithio, bydd angen y cydweithio mwyaf effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ganiatáu i’r ddeddfwrfa hon arfer y pwerau y mae pobl Cymru eisiau i ni eu cael. Diolch.