Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Wel, rwyf i’n gwrthwynebu digartrefedd. Nid yw crwydradaeth wedi bod yn drosedd ers cryn amser. Nid ydym ni’n brandio pobl mwyach, fel yn wir flynyddoedd lawer yn ôl. Ond dyma’r pwynt: atal sy’n allweddol yn y fan yma, ac mae'r ffaith fod 65 y cant o'r holl aelwydydd a oedd mewn perygl o fod yn ddigartref wedi cael eu helpu cyn iddyn nhw ddod yn ddigartref yn bwysig. Mae'n hynod bwysig cael tai cymdeithasol. Dyna pam, wrth gwrs, mae gennym ni darged o 20,000 o gartrefi i gael eu hadeiladu yn ystod y Llywodraeth hon ac, wrth gwrs, pam yr ydym ni’n rhoi terfyn ar yr hawl i brynu—does dim pwynt ceisio llenwi'r bath gyda'r plwg allan. Felly, rydym ni’n gwybod y bydd llawer mwy o dai ar gael yn y dyfodol i bobl, gan geisio ymdrin â'r difrod a grëwyd yn y 1980au, wrth i dai gael eu gwerthu heb gael rhai eraill yn ei lle. Ac, wrth gwrs, rydym ni eisiau sicrhau bod awdurdodau lleol yn defnyddio'r rhaglen Cefnogi Pobl a'r grant atal digartrefedd er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl sy'n dod yn ddigartref yn cael eu helpu, yn hytrach na'r broblem ddigartrefedd a grëwyd heb os gan y Torïaid yn y 1980au.