Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Brif Weinidog, roedd yr Aelod dros Orllewin De Cymru yn llygad ei le i dynnu sylw at nifer y cartrefi gwag neu nad ydynt ar gael ar hyn o bryd—dros 20,000. Mae hynny’n fwy na’ch targed ar gyfer tai fforddiadwy yn nhymor cyfan y pumed Cynulliad hwn. Mae'n ymddangos i mi fod llawer o bobl sydd yn nid yn unig mewn perygl o fod yn ddigartref, ond nad ydynt wedi gallu ffurfio eu haelwydydd eu hunain ac yn gorfod aros mewn llety y byddai'n well ganddyn nhw ei adael. Un ffordd o fynd i'r afael â hyn, yn rhannol, fyddai edrych ar y cartrefi hynny nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd.