<p>Digartrefedd yn Ne Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 1 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:36, 1 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Mae gennym ni hanes llwyddiannus yn hynny o beth. Os cofiaf yn iawn, daethpwyd â thua 6,000 o gartrefi yn ôl i ddefnydd trwy'r fenter cartrefi gwag. Ac mae’r Aelod yn llygad ei le i ddweud, tra bod tai yn wag a phobl angen cartrefi, bod angen unioni’r sefyllfa honno felly. Ac mae'r ffaith y daethpwyd â chynifer o filoedd o gartrefi yn ôl i ddefnydd yn arwydd o hynny.