Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Bri Weinidog, yn amlwg, cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y gwelliant hwnnw i Fil Cymru ddoe, a mater i chi yw mapio sut yn union y byddwch chi’n defnyddio'r pwerau newydd hynny fel Llywodraeth pan fyddant yn cyrraedd yma. Mae'r undebau yn amlwg wedi rhoi eu barn ar hynny eisoes. Ond os edrychwch chi, mewn gwirionedd, ar bobl sy'n bwriadu hyfforddi i fod yn athrawon, bu gostyngiad o 9 y cant o ran ceisiadau i fod yn athrawon dim ond eleni. Mae hynny'n ostyngiad o 36 y cant dros y 10 mlynedd ddiwethaf, o bobl sy’n cynnig eu hunain i ddechrau’r hyfforddiant i ddod yn athro neu’n athrawes. Felly, rydych chi’n mynd i gael y pwerau yn y Cynulliad hwn ar delerau ac amodau athrawon. Beth yn union ydych chi’n mynd i'w wneud â nhw i newid y ffigurau hyn?