Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Nid dilyn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn Llundain yn ei wneud, oherwydd, yn amlwg, nid yw'n gweithio o ran recriwtio a chyflog ac amodau. Rydym ni’n awyddus i sicrhau bod gennym ni becyn wedi'i deilwra ar gyfer athrawon yng Nghymru, o ran hyfforddiant ac o ran y ffordd y maen nhw’n datblygu yn eu proffesiwn. Rydym ni wedi nodi'r dull a ddefnyddiwyd yn yr Alban, ac mae hwnnw'n ddull y byddwn yn ei archwilio, ynghyd ag eraill, i wneud yn siŵr bod y pecyn yn un sy'n fwyfwy deniadol i athrawon, oherwydd mae’n gwbl eglur, pan ddaw i gyflog ac amodau athrawon, nad yw’r hyn sy’n bodoli nawr yn gweithio iddyn nhw.