<p>Rheoleiddio Tân Gwyllt</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 1 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:59, 1 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Mae tân gwyllt yn cael ei reoleiddio gan amrywiaeth o ddeddfwriaeth, gan gynnwys rheoliadau iechyd a diogelwch, diogelu defnyddwyr, diogelwch cynhyrchion a ffrwydron, nad ydynt wedi eu datganoli yn gyffredinol. Mae'n amheus a yw’r gallu gennym ni i newid y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd ac, unwaith eto, nid yw’r sefyllfa’n cael ei gwneud yn fwy eglur gan Fil Cymru. I mi, y ffordd orau o ymdrin â rheolaeth tân gwyllt yw ar lefel Prydain Fawr o leiaf, o ystyried y ffaith y gall pobl symud tân gwyllt ar draws yr ynys. Ond rwy’n derbyn y pwynt, a gwn ei bod wedi bod yn codi'r pwynt hwn yn lleol am y peryglon y gall tân gwyllt eu hachosi.