1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Tachwedd 2016.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwerau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rheoleiddio tân gwyllt? OAQ(5)0237(FM)
Mae tân gwyllt yn cael ei reoleiddio gan amrywiaeth o ddeddfwriaeth, gan gynnwys rheoliadau iechyd a diogelwch, diogelu defnyddwyr, diogelwch cynhyrchion a ffrwydron, nad ydynt wedi eu datganoli yn gyffredinol. Mae'n amheus a yw’r gallu gennym ni i newid y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd ac, unwaith eto, nid yw’r sefyllfa’n cael ei gwneud yn fwy eglur gan Fil Cymru. I mi, y ffordd orau o ymdrin â rheolaeth tân gwyllt yw ar lefel Prydain Fawr o leiaf, o ystyried y ffaith y gall pobl symud tân gwyllt ar draws yr ynys. Ond rwy’n derbyn y pwynt, a gwn ei bod wedi bod yn codi'r pwynt hwn yn lleol am y peryglon y gall tân gwyllt eu hachosi.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, rydym ni wedi gweld digwyddiadau tân gwyllt peryglus ledled Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun yng Ngorllewin Casnewydd, lle’r ymosodwyd ar y gwasanaeth tân, y gwasanaeth ambiwlans a'r heddlu gan unigolion yn eu defnyddio fel taflegrau. Roedd y tân gwyllt a ddefnyddiwyd yn yr ymosodiadau llwfr hyn ar bobl yn ceisio gwneud eu gwaith yn gwasanaethu ein cymunedau yn dân gwyllt masnachol graddfa fawr, sydd gryn dipyn yn fwy pwerus a pheryglus. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i gondemnio’r ymosodiadau ar weithwyr gwasanaethau cyhoeddus? A wnewch chi hefyd ystyried pa bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru o ran diogelu'r cyhoedd, yn enwedig o ran rheoleiddio, rhag y tân gwyllt masnachol graddfa fawr hyn, sy’n gallu, os cânt eu defnyddio’n anghyfrifol, achosi anaf difrifol?
Ni welaf unrhyw reswm pam y dylai aelodau'r cyhoedd allu prynu tân gwyllt masnachol—maen nhw’n hynod beryglus yn y dwylo anghywir. Nid yw pobl wedi arfer â thân gwyllt o bŵer penodol, o ran pa mor bell yn ôl y mae'n rhaid iddyn nhw sefyll. Ni allant eu cynnau gyda thapr—mae'n rhaid iddyn nhw gael eu cynnau gyda gwefr electronig. Felly, rwy’n credu bod cwestiynau o hyd ynghylch pa mor dda y mae tân gwyllt wedi’u rheoleiddio. Mae'n drosedd tanio tân gwyllt ar adegau penodol o'r dydd. Mae'n drosedd prynu tân gwyllt yn iau na 18 oed. Ond, os bydd unrhyw un yn dioddef ymosodiad gyda thân gwyllt, mae hynny eisoes yn drosedd a dylid erlyn o’i herwydd.
Rwy'n siŵr y bydd ein Cynulliad cyfan yn uno i gondemnio hurtrwydd difeddwl y rhai a ymosododd ar y gwasanaethau brys gyda thân gwyllt yng Nghasnewydd. Mae Cymdeithas Tân Gwyllt Prydain wedi rhybuddio y byddai unrhyw gyfyngiadau pellach ar werthu a defnyddio tân gwyllt yn arwain at gynnydd sylweddol i werthu heb ei reoleiddio ac na ellir ei olrhain. Mae penaethiaid tân eisoes wedi rhybuddio y byddai mwy o gyfyngiadau yn arwain at gynnydd mewn mewnforion anghyfreithlon. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno y dylid gweithredu unrhyw gynigion i gyfyngu ar werthu tân gwyllt dim ond yn dilyn yr ymgynghoriad ehangaf gyda'r diwydiant a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru?
Rwy’n credu, os ydych chi’n iau na 18 oed, na ddylech chi gael prynu tân gwyllt. Rwy’n credu, os cofiaf yn iawn, bod tân gwyllt wedi’i gategoreiddio. Dim ond gweithwyr proffesiynol gaiff ddefnyddio tân gwyllt categori 4. Rwy’n credu bod angen ymchwiliad i weld a yw rhai mathau o dân gwyllt yn y categorïau cywir. Felly, yn hytrach na cheisio cyflwyno gwaharddiad ehangach ar y defnydd o bob math o dân gwyllt, rwy'n credu bod achos dros edrych ar bŵer rhai tân gwyllt o ran a ddylent, mewn gwirionedd, fod ar gael i aelodau'r cyhoedd neu a yw’n well eu gadael yn nwylo gweithwyr proffesiynol.