<p>Rheoleiddio Tân Gwyllt</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 1 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:01, 1 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ni welaf unrhyw reswm pam y dylai aelodau'r cyhoedd allu prynu tân gwyllt masnachol—maen nhw’n hynod beryglus yn y dwylo anghywir. Nid yw pobl wedi arfer â thân gwyllt o bŵer penodol, o ran pa mor bell yn ôl y mae'n rhaid iddyn nhw sefyll. Ni allant eu cynnau gyda thapr—mae'n rhaid iddyn nhw gael eu cynnau gyda gwefr electronig. Felly, rwy’n credu bod cwestiynau o hyd ynghylch pa mor dda y mae tân gwyllt wedi’u rheoleiddio. Mae'n drosedd tanio tân gwyllt ar adegau penodol o'r dydd. Mae'n drosedd prynu tân gwyllt yn iau na 18 oed. Ond, os bydd unrhyw un yn dioddef ymosodiad gyda thân gwyllt, mae hynny eisoes yn drosedd a dylid erlyn o’i herwydd.