Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Rwy’n credu, os ydych chi’n iau na 18 oed, na ddylech chi gael prynu tân gwyllt. Rwy’n credu, os cofiaf yn iawn, bod tân gwyllt wedi’i gategoreiddio. Dim ond gweithwyr proffesiynol gaiff ddefnyddio tân gwyllt categori 4. Rwy’n credu bod angen ymchwiliad i weld a yw rhai mathau o dân gwyllt yn y categorïau cywir. Felly, yn hytrach na cheisio cyflwyno gwaharddiad ehangach ar y defnydd o bob math o dân gwyllt, rwy'n credu bod achos dros edrych ar bŵer rhai tân gwyllt o ran a ddylent, mewn gwirionedd, fod ar gael i aelodau'r cyhoedd neu a yw’n well eu gadael yn nwylo gweithwyr proffesiynol.