Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 1 Tachwedd 2016.
A gaf i ofyn i’r Prif Weinidog beth mae’n ei wneud i ehangu dealltwriaeth pobl o ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ac yn arbennig o ran dosbarthu ynni adnewyddadwy yn lleol at bobl leol er mwyn cynyddu’r gefnogaeth iddo? Pe bai Sian Gwenllian yn gallu bod yma heddiw, rwy’n siŵr y byddai hi am i fi sôn am Ynni Ogwen, cynllun cydweithredol i ddosbarthu ynni’n lleol. Mae yna gwmnïau ynni yn cael eu sefydlu gan awdurdodau lleol yn Lloegr, fel Ynni Robin Hood yn Nottinghamshire. Onid yw’n bryd i’r Llywodraeth ystyried sefydlu cwmni ynni adnewyddadwy ar gyfer Cymru a dosbarthu ynni yn lleol?