Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Mae'r awyrgylch yn llawn eironi. Pan rwy’n clywed y sylw yna, mae’n rhaid i mi atgoffa'r Aelod ei fod yn rhan o blaid a gaeodd pyllau glo yn fwriadol—hyd yn oed y rhai a oedd yn gwneud elw. [Torri ar draws.] Hyd yn oed y rhai a oedd yn gwneud elw, caewyd y rheini. Ar y pryd, roedd glo, yn ei dyb ef, wedi darfod. Y gwir nad yw cloddio dwfn yn realiti i'r rhan fwyaf o Gymru mwyach—adeiladwyd dros fwyafrif y pyllau a gaeodd; llenwyd eu siafftiau. Mae'n sôn am gloddio’n economaidd—mae’n sôn am lo brig. Nawr, os yw eisiau dadl, rwy’n awgrymu ei fod yn siarad â phobl sy'n byw wrth ochr safleoedd glo brig am y ffordd y maen nhw’n teimlo am y peth. Felly, yr hyn y mae'n ei argymell yw glo brig neu fwy o fewnforion. Mae'n rhaid i ni gofio nad oes unrhyw ffordd y gallwn ni gynhyrchu’r glo y byddai ei angen arnom ni i bweru ein gorsafoedd pŵer. Nid oes unrhyw ffordd y gallwn ni ddisodli’r nwy naturiol hylif—mae 25 y cant ohono sy'n dod i mewn i'r DU yn dod trwy Aberdaugleddau. A cheir dau gwestiwn yn y fan yna—yn gyntaf, mae'n ddrytach oherwydd y gostyngiad yng ngwerth y bunt, ac, yn ail, diogelwch ynni. Nid ydym ni eisiau bod yn rhy ddibynnol ar fewnforio ynni o rywle arall, ond y gwir amdani yw bod y diwydiant glo wedi ei ddyrnu yn y 1980au, cafwyd gwared arno’n gwbl fwriadol, ac ni all ddweud nawr, 'A dweud y gwir, yr hyn yr ydym ni ei eisiau yw mwy o lo', pan wnaeth ef fwy na neb arall i sicrhau nad oedd unrhyw lo yno yn y lle cyntaf.