<p>Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 1 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:09, 1 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Er bod swyddogaeth i ynni adnewyddadwy ar yr ymylon, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno mai’r unig beth y mae hyd yn oed mwy o ddibyniaeth ar ynni adnewyddadwy nag sydd gennym ni ar hyn o bryd yn debygol o’i wneud yw gorfodi costau afresymol ar bobl? Rhwng 2014 a 2020 amcangyfrifir eisoes bod cost gyfartalog cymorthdaliadau gwyrdd a threthi carbon yn £3,500 fesul cartref, ac er efallai fod gan gynlluniau ynni dŵr, a chynlluniau llanw hyd yn oed, le yn y gymysgedd ynni, gan fod gwynt yn ysbeidiol, mae'n ddrud iawn, gan fod rhaid i chi gael gorsafoedd pŵer wrth gefn i ymdopi pan nad yw'n chwythu neu ei bod yn chwythu’n rhy gryf, ac felly byddai'n llawer mwy synhwyrol dibynnu mwy ar adnoddau confensiynol, fel glo, er enghraifft, y mae Simon Thomas newydd sôn amdano. Rydym ni’n eistedd ar rai o'r meysydd glo carreg gorau yn y byd. Lle gellir cloddio hwn yn fasnachol, onid yw'n synhwyrol rhoi hwnnw yn y gymysgedd ynni hefyd?