Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Rwy'n ddiolchgar iawn am gwestiynau'r Aelod. Roedd llawer iawn ohonyn nhw, felly rwyf wedi ceisio eu taro nhw ar bapur fel yr oeddech chi’n eu codi. Y diffiniad o dai fforddiadwy: wrth gwrs, rwy’n cydnabod y mater lle bynnag yr ydych yng Nghymru, mae gwahanol elfennau a fydd yn cael effaith yno—mae cost atebion tai a marchnadoedd yn gyrru gwahanol brisiau a gwahanol anghenion, ond mae yna ddiffiniad o fforddiadwyedd yr ydym yn ei ddefnyddio. Soniais yn ystod fy natganiad, o ran cynllunio, y ceir diffiniad penodol iawn y byddem yn ystyried ei ddefnyddio o ran datblygiadau. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol o hynny, ond rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod mewn cysylltiad â’r diffiniad, a fyddai'n ddefnyddiol iddi yn ei phenodiad fel Gweinidog tai cysgodol.
Cartrefi Cymunedol Cymru—mae hi’n codi pwynt dilys iawn ynghylch sefyllfa cyfaill beirniadol Cartrefi Cymunedol Cymru a CLlLC. Rwy'n credu mai’r hyn sy'n wirioneddol ddefnyddiol, a'r hyn yr ydym wedi ei ddysgu o brofiad y cytundeb, a hefyd y ffordd y mae fy nhîm yn gweithio gyda'r sefydliad, yw bod llawer o atebion ganddynt i hyn hefyd. Felly, mae’n ymwneud, bron, â chydnabod bod gan Lywodraethau lawer o sgiliau, ond nid pob un ohonynt. Lle mae gennych arbenigwyr yn y sector, dylem ddefnyddio eu prosesau meddwl. A dyna pam y mae Cartrefi Cymunedol Cymru a CLlLC, sy'n datblygu’r tai hyn, yn gallu rhoi cyngor pellach i ni, ac, ydynt, maen nhw yn feirniadol iawn lle mae angen iddynt fod, ond, mewn gwirionedd, mae gennym berthynas dda iawn ac rydym yn buddsoddi £1.3 biliwn o arian cyhoeddus mewn tai. Ac rwy’n meddwl ei fod yn ddefnyddiol iawn bod gennym drydydd parti yn edrych ar sut yr ydym yn gallu gwneud hynny mewn ffordd fwy ymarferol.
Rwy’n cytuno â’r Aelod yn llwyr ar y mater o warchod eiddo pan fyddwn yn eu cael mewn stoc, ac nid eu symud i'r farchnad prynu i osod. A dyna pam y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiddymu’r hawl i brynu.
O ran manylion ar gyfer y 20,000 o gartrefi, nid yw mewn gwirionedd yn ychwanegu gwerth o ran ychwanegedd o fewn y nifer hwnnw, ond yr hyn y mae'n ei wneud yw amddiffyn y stoc sydd gennym eisoes, a stoc y dyfodol a fydd yn fuddsoddiad. Felly, mae'n offeryn gwarchod o ran ein buddsoddiad tymor hir.
Mae Cymorth i Brynu yn bwynt pwysig a godwyd gan yr Aelod. Mae angen i mi edrych ar y ffigurau, ond rwy'n eithaf siŵr, pan gyflwynwyd y cynllun gennym, bod y cynllun, o ran Cymru a Lloegr—bod y trothwyon yn wahanol iawn. Rwy’n meddwl mai ein terfyn uchaf yw tua £300,000, ac rwy'n credu mai trothwy’r DU yw £0.5 miliwn. Ond byddaf yn edrych eto ar hynny—ac os ydw i'n anghywir, rwy’n ymddiheuro i gydweithwyr, ond byddaf yn edrych eto a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ar y broses honno. Rydym yn cydnabod hefyd fod yna wahaniaeth o ran y marchnadoedd, ac argaeledd eiddo yma.
Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yma yw cynnig cymysgedd o ddaliadaethau. Mae llawer o bobl yn ceisio cael mynediad at y farchnad dai, ar lefelau gwahanol iawn, boed yn dai cymdeithasol neu'r farchnad sector preifat. Ac mae rhwystrau ym mhob un o'r meysydd hynny, ac rydym yn ceisio creu sefyllfa lle y gallwn helpu pobl i symud i fod yn berchen ar dŷ—yn ffisegol neu mewn marchnad rentu, drwy dai cymdeithasol—beth sy'n iawn i’r bobl hynny.
O ran y Ddeddf Tai a gododd yr Aelod mewn cysylltiad â barn Shelter Cymru—byddaf yn ystyried hynny ymhellach. Byddai'n gas gennyf feddwl bod unrhyw un o'n sefydliadau yr ydym yn eu hariannu yn uniongyrchol yn y farchnad i droi pobl allan, fel cam cyntaf. Nid wyf yn credu ei bod yn iawn, yn foesol, ac felly byddaf yn ystyried hynny ymhellach wrth inni symud ymlaen.