Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Diolch yn fawr iawn a diolch ichi am y datganiad yma heddiw. Ni fyddem, yn amlwg, yn dadlau â’r ffaith bod targed o’r natur yr ydych wedi cyrraedd i'w groesawu, ond byddwn yn adleisio rhai o'r sylwadau sydd wedi'u gwneud mewn perthynas â pha un a oes problem o ran y ffigur fel ag y mae. Rwy'n dweud hyn nid ar ran fy hunan yn unig—rwy’n ei ddweud oherwydd bos y sector wedi cyfleu hynny i mi. Wrth gwrs, bydd 6,000 o’r cartrefi hynny yn gartrefi Cymorth i Brynu ac yn amlwg, mae hynny er mwyn helpu pobl i brynu tŷ hyd at £300,000. Er y gall hynny fod yn arwyddocaol yn ne-ddwyrain Lloegr, nid yw hynny’n cymharu â fforddiadwyedd yma yng Nghymru, a byddwn yn awyddus i gael gwybod—gan fy mod yn newydd i’r briff hwn—a wnaeth unrhyw un o'ch gweision sifil ychydig o ymchwil i weld a fyddai ffyrdd o addasu’r sefyllfa Cymorth i Brynu yma yng Nghymru. Wrth gwrs, nid wyf yn gwybod am eich ardal chi, ond yn yr ardal lle’r wyf i’n byw, mae tŷ o £300,000 yn dŷ eithaf sylweddol o’i gymharu ag eraill sydd ar gael yng Nghymru. Felly, rwy'n credu bod hynny'n eithaf sylfaenol ar gyfer y ddadl sydd gennym o ran fforddiadwyedd.
Hoffwn hefyd rywfaint o eglurder i’r diffiniad hwnnw, unwaith eto ar ôl siarad â phobl yn y sector. Eich diffiniad chi o fforddiadwyedd yw:
Y rhai hynny nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu gan y farchnad agored.
Tybed a ydych chi wedi cael unrhyw syniadau fel Gweinidog—fel Ysgrifennydd y Cabinet—am amrywio'r diffiniad hwn mewn gwahanol rannau o Gymru. Er enghraifft, yng Nghastell-nedd, byddai fforddiadwyedd tŷ yn wahanol iawn i'r hyn sy’n fforddiadwy ym Mhenarth. Ac felly, mae cael y diffiniad eithaf eang hwnnw weithiau'n drysu trigolion pan fyddant yn cymryd rhan mewn prosesau ymgynghori, oherwydd eu bod yn gwybod na fydd eu teuluoedd yn gallu fforddio'r diffiniad o dŷ fel y'i diffinnir gan Barratt Homes, dyweder, neu gwmni arall yn eu hardal hwy.
Byddwn yn chwilfrydig i ddarganfod mwy am y ffaith eich bod wedi dweud y byddech yn rhyddhau mwy o dir sector cyhoeddus a thir y Llywodraeth ar gyfer tai. Rwy'n credu y byddai'n ddiddorol i ni gael gwybod mwy o fanylion am hynny, oherwydd, wrth gwrs, weithiau mae dadleuon ynghylch ble y mae’r tir hwnnw, a sut wedyn y mae tai yn cael eu dosbarthu yn lleol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a fyddai o ddiddordeb imi gael gwybod mwy amdano, a hefyd ynghylch y cytundeb tridarn sydd gennych yn awr gyda Chartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi’r targed tai y byddwch yn ei gyflawni. Yn amlwg, roedd gennych y cytundeb hwn gyda Chartrefi Cymunedol Cymru o’r blaen, ond a allech ddweud wrthyf sut y maent yn dal i gadw eu statws fel 'cyfaill beirniadol y Llywodraeth' pan fyddant yn gweithio gyda chi ar y mater penodol hwn, oherwydd, wrth gwrs, mae angen i ni barhau i gael yr elfen graffu honno gan Gartrefi Cymunedol Cymru hefyd?
Rydych hefyd yn sôn yn eich datganiad bod cael tai o ansawdd da yn cynnig manteision i blant o ran iechyd ac addysg, ac ni fyddwn yn dymuno amau hynny, ond felly, hefyd, y mae sefydlogrwydd a pheidio cael eich troi allan a’ch symud. Felly, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod yr elfen tai cymdeithasol o'r 20,000 o gartrefi hyn yn cael ei rhedeg gan sefydliadau nad ydynt yn defnyddio troi allan fel y dewis cyntaf, fel y gwelwyd mewn ymchwil diweddar gan Shelter Cymru.
A fy nghwestiwn arall fyddai hyn: efallai bod tai yn fforddiadwy ar adeg eu hadeiladu, ond os byddant yn glanio yn nwylo landlordiaid prynu i osod yn y pen draw, ni fyddant yn fforddiadwy am yn hir iawn. Felly, sut ydych chi'n sicrhau hirhoedledd y tai fforddiadwy sy'n cael eu hadeiladu, nid gan eich Llywodraeth, gan nad ydych chi’n adeiladu tai, fel y dywedasoch, ond gan bartneriaid yn y sector?
A maddeuwch i mi os nad wyf wedi darllen eich datganiad yn gywir, ond a allwch chi ddweud wrthym, drwy geisio diddymu'r hawl i brynu, yr ydym, wrth gwrs, yn ei gefnogi, pa elfen—? Sut mae hynny'n dod i mewn i'r ffigurau, oherwydd, wrth gwrs, bydd y Ceidwadwyr yn dweud, 'Wel, nid ydych yn adeiladu digon'? Ond, yn sicr, trwy ddiddymu'r hawl i brynu, byddai hynny'n bwydo i mewn i'r ystadegau tai cymdeithasol. A allwn ni gael deall sut y byddai hynny yn chwarae rhan yn hynny?
Mae fy nghwestiwn olaf yn rhywbeth, unwaith eto, yr oedd gennym mewn cyfarfod ymylol yng nghynhadledd Plaid Cymru a drefnwyd gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Roeddent yn chwilfrydig i ddarganfod, gyda'r comisiwn seilwaith newydd, a fyddai tai yn rhan allweddol yn hynny o beth, oherwydd, wrth gwrs, rydym yn meddu ar sgiliau yma yng Nghymru, mae gennym bobl sydd eisiau adeiladu mwy o dai. Sut y byddant yn chwarae rhan yn y comisiwn seilwaith, oherwydd rwy’n credu eu bod nhw’n ei weld yn fwy fel rhyw fath o brosiect seilwaith trafnidiaeth, yn hytrach na phrosiect seilwaith tai? Ac maent yn awyddus i fod yn rhan o'r sgwrs, mewn gwirionedd. Felly, pe gallech ateb y cwestiynau hynny, byddwn yn ddiolchgar iawn.