Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Cytunaf yn llwyr â nifer o'r pwyntiau a wnaed gan Bethan Jenkins, a deallaf ei bod yn ddidwyll yn y modd y mae hi wedi mynegi’r pwyntiau hynny. Gadewch i mi ddweud hyn: rwy’n hollol benderfynol nad siop siarad yn unig fydd y tasglu hwn, ac ni fydd yn darparu'r sylwebaeth o bell fel y disgrifiwyd ganddi. Yn amlwg, wrth sefydlu corff, mae angen cael nifer o sgyrsiau ynghylch sut bydd y corff hwnnw’n gweithredu a’r strwythurau y bydd yn gweithredu oddi mewn iddynt.
Byddwn i’n dweud wrth yr Aelod dros Orllewin De Cymru, yn ogystal â’r Aelodau eraill yn y Siambr heddiw, y byddai'n ddefnyddiol edrych ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd fis diwethaf a chadw llygad ar y wefan, oherwydd byddwn yn gweithredu mewn ffordd gwbl dryloyw lle bydd papurau, agendâu a chofnodion pob cyfarfod yn gyhoeddus a byddwch yn gallu deall yn union y mathau o sgyrsiau sy'n digwydd.
O ran y gyllideb a ddyrennir ar hyn o bryd i’r tasglu, rwy’n disgwyl iddi gael ei gwario yn bennaf ar weithgareddau ymgysylltu, gan ddefnyddio rhai o'r dulliau a ddisgrifiwyd gan yr Aelod. Ond hefyd hoffwn edrych ar rai o'r ffyrdd arloesol y gallwn ymgysylltu â phobl a’u cynnwys wrth wneud penderfyniadau, nad yw’n digwydd ar hyn o bryd. Bydd yr Aelod yn gweld o wefan tasglu’r Cymoedd ein bod eisoes wedi dechrau gwneud hynny, ac wedi rhoi llawer o ystyriaeth i hynny. Ond rwy’n cydnabod bod angen canlyniadau ac allbynnau o hynny hefyd, ac yn sicr rwyf yn gobeithio gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y canlyniadau hynny.
O ran y gwrthdaro posibl, os hoffwch chi, rhwng meddwl arloesol a’r gwaith sy’n mynd rhagddo, roeddwn i’n glir iawn—ac rwyf eisiau ailadrodd hyn, oherwydd mae’n gwbl hanfodol—trwy greu tasglu’r Cymoedd, yr hyn nad ydym yn ei wneud yw creu dull cyflenwi cyfochrog ar gyfer polisïau presennol nac, o bosibl, bolisïau’r dyfodol i Gymoedd y de. Nid oes gan unrhyw dasglu o'r fath y capasiti sydd gan adrannau'r Llywodraeth a dulliau cyflenwi y Llywodraeth i wneud hynny, felly byddem yn methu. Felly, nid wyf yn dymuno gwneud hynny, ac nid hynny yw fy mwriad ar gyfer y tasglu. Yr hyn yr wyf yn gobeithio y byddwn yn gallu ei wneud yw gweithio ochr yn ochr â strwythurau presennol, rhaglenni presennol, dulliau presennol o gyflawni, i sicrhau eu bod yn cyflawni ar gyfer Cymoedd y de.
Cefais gyfarfod yn gynharach heddiw gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Buom yn trafod sut y byddwn yn sicrhau bod y dulliau cyflawni hyn yn syml ac nad ydynt yn dyblygu gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud, a sut y bydd y tasglu yn ychwanegu gwerth at yr uchelgeisiau sydd eisoes yn cael eu disgrifio gan bobl megis y rhai sy'n gweithio gyda’r dinas-ranbarth a'r fargen ddinesig. Ar yr un pryd, rwyf wedi cwrdd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a thrafod gydag ef er mwyn cael yr union drafodaethau a amlinellwyd gan yr Aelod ynglŷn â’r metro. Nawr, rwyf i a'r Aelod sy’n eistedd wrth ei hochr o Ddwyrain De Cymru, y ddau ohonom yn dod o Dredegar, cymuned na fydd yn cael ei gwasanaethu gan y metro o ran y gwasanaethau rheilffyrdd, ond y mae angen iddi fod yn gysylltiedig â'r metro o ran gwasanaethau bysiau a mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus. Rydym yn cydnabod bod angen buddsoddiad sylweddol iawn arnom mewn trafnidiaeth gyhoeddus fel y gall pobl gael mynediad at swyddi. Ond hefyd mae angen cael gwared ar, os mynnwch chi, y canfyddiad o bellter sy'n bodoli ar hyn o bryd, yn enwedig yma yng Nghaerdydd, bod y Cymoedd yn bell i ffwrdd a'i bod yn daith hir ac anodd iawn i gyrraedd y cymunedau hynny. Mewn gwirionedd bydd system drafnidiaeth gyflym yn dechrau newid y canfyddiadau hynny ac, yn fy marn i, bydd yn cael effaith gadarnhaol iawn ar swyddi ac ar fywyd yn y Cymoedd.
Ond rwyf yn ymrwymo i gyhoeddi targedau clir a byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y mentrau yr ydym yn eu cymryd.