Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Nid wyf yn siŵr a ddylwn i fod yn ddiolchgar am y sylwadau hynny ai peidio. Gadewch i mi ddweud hyn: mae gan UKIP hanes eithaf rhyfedd yn hyn o beth, lle nad yw cofnod pleidleisio ei Aelodau etholedig bob amser yn cyd-fynd â'r rhethreg a gyflwynir ar wahanol adegau. Mae arweinydd UKIP yn y lle hwn o hyd yn ein hatgoffa ei fod wedi bod yn falch o bleidleisio dros y gyllideb ym 1981 a arweiniodd at lefelau anhygoel o dlodi a dad-ddiwydiannu yng Nghymoedd y de. Roedd yr Aelod UKIP sy’n eistedd wrth eich ymyl ar y meinciau hyn yn hapus iawn fel Ceidwadwr i bleidleisio dros gyni, sydd wedi arwain yn uniongyrchol at golli’r £350 miliwn gan rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymoedd y de, y cyfeiriais ato yn gynharach. Rwy'n gwrando ar yr hyn y mae UKIP yn ei ddweud, ac wedyn yn edrych ar eu cofnod pleidleisio, ac mae'n rhaid imi ddweud mai prin yw’r sefydliadau sydd â hanes o fod mor ddinistriol i gymunedau Cymoedd y de ag UKIP.
Rydych yn gofyn beth sy'n wahanol am yr hyn yr ydym yn dechrau arno heddiw i’r mentrau hynny yn y gorffennol. Gadewch i mi ddweud hyn: mae hon yn fenter sy'n cael ei harwain gan bobl o’r Cymoedd, yn y Cymoedd; sy'n cael ei harwain gan weledigaeth ac uchelgais ar gyfer pobl yn y Cymoedd, o'r Cymoedd; mae'n cwmpasu’r Llywodraeth gyfan ac nid un o adrannau'r Llywodraeth yn unig; mae'n dwyn ynghyd holl uchelgeisiau a gweledigaethau amrywiol y Llywodraeth hon ar gyfer y cymunedau yr ydym yn ceisio eu cynrychioli a’r cymunedau lle cawsom ein geni. A gadewch i mi ddweud hyn: rydym yn gwbl ymrwymedig i sicrhau y byddwn yn cyflawni ar gyfer y cymunedau hynny ac y byddwn yn buddsoddi yn y cymunedau hynny yn yr un modd ag yr ydych chi wedi hau hadau dad-ddiwydiannu economaidd yn y cymunedau hynny.