Part of the debate – Senedd Cymru am 6:23 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a chroesawaf hynny, a diolch iddo hefyd am ei ragrybudd o’r datganiad, a roddodd, o safbwynt personol, ddigon o amser i mi ei ddarllen ymlaen llaw. Mae wedi crybwyll yn ei atebion hyd yn hyn —ac mae wedi’i ailadrodd yn y datganiad, a chroesawaf hynny—yr ymrwymiad i ymgysylltu â'r cymunedau i lywio gwaith y tasglu. A gaf i ei holi ychydig ynghylch hynny? Yn ei feddwl ef, beth mae’n ei olygu? Beth fyddai un o’m hetholwyr i yng Nghwm Nedd, er enghraifft, yn teimlo oedd ei berthynas ef â'r tasglu? Am beth fydd e’n cael ei holi, a sut fydd yn cymryd rhan yn y gwaith llywio? Felly, pe gallai ymhelaethu ar hynny byddwn i’n ddiolchgar. Mae’r ail bwynt yn ymwneud â mater trafnidiaeth gyhoeddus. Mae wedi cyfeirio at y dull o gysylltu cymunedau nad ydynt ar y metro. Mae rhannau o orllewin y Cymoedd sy'n teimlo'n bell iawn oddi wrth y metro. Felly, a gawn ni sylwadau ganddo ar fuddsoddiad cyhoeddus mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn y rhan honno o'r Cymoedd hefyd, os gwelwch yn dda?