13. 10. Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2015-2016

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:42 pm ar 1 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:42, 1 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wrth ystyried adolygiad blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2015-16, 'Tuag at Gymru Decach', mae ein gwelliant 3 yn nodi bod dadansoddiad y comisiwn wedi amlygu saith her allweddol y mae angen mynd i'r afael â nhw yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, ac y bydd angen ymdrech sylweddol gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, a chan unigolion, i leihau’r heriau hyn. Mewn geiriau eraill, mae’n rhaid cydgynhyrchu mewn partneriaeth gyfartal yr atebion i'r hyn y mae'r comisiwn yn ei ddisgrifio fel y pethau sylweddol sy’n achosi anghydraddoldebau a chamarfer hawliau dynol sydd wedi’u hymwreiddio, gan gydnabod bod pawb yn arbenigwr yn eu bywydau eu hunain. Fel y mae adroddiad y comisiwn yn datgan, mae'r saith her allweddol hyn yn berthnasol i: addysg; cyflogaeth; amodau byw mewn cymunedau cydlynol; mynediad at gyfiawnder a chyfranogiad democrataidd; gwasanaethau iechyd meddwl a chymorth; cam-drin, esgeulustod a chamdriniaeth dan ofal a chadwad; a chael gwared ar drais, cam-drin ac aflonyddu yn y gymuned.

Fel y mae’r prosiect troseddau casineb Cymru gyfan yn nodi,

Dylai Llywodraeth Cymru arwain y ffordd wrth sicrhau bod mecanweithiau adrodd trydydd parti hawdd eu defnyddio ar waith ar gyfer dioddefwyr nad ydyn nhw’n dymuno adrodd yn uniongyrchol i'r heddlu, ac y dylid gwneud mwy i sicrhau yr ymdrinnir â chyflawnwyr troseddau casineb yn effeithiol ac y dylai dulliau adferol fod ar gael i bawb yng Nghymru.

Byddwn ni’n cefnogi gwelliannau Plaid Cymru, er y byddem ni hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chyrff cyflogwyr a’r sector gwirfoddol. Roedd sefydlu clinig hunaniaeth rywedd ym maniffesto Ceidwadwyr Cymru yn 2016.

Mae ein gwelliant 4 yn croesawu cydnabyddiaeth gan y comisiwn o’r angen i rymuso ac ymgysylltu â'r sector gwirfoddol a chymunedol. Mae cynllun gwaith Cymru 2016-17 y comisiwn yn cynnwys hyrwyddo tystiolaeth i rymuso’r sector gwirfoddol a chymunedol a'r cyhoedd i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, a dylanwadu ar benderfyniadau a’r gwaith o lunio polisïau ar draws y sector cyhoeddus ac ymgysylltu â chyrff cyhoeddus a'r sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru i sicrhau bod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn annog gwelliannau mewn cyflogaeth yn y sector cyhoeddus ac o ran cyflenwi gwasanaethau.

Fel y nododd y comisiwn Williams:

Bydd angen i arweinwyr ar bob lefel fod yn agored i wahanol ffyrdd o weithio, gan gynnwys cydweithredu neu gyd-gynhyrchu.

Fel y noda Archwilydd Cyffredinol Cymru:

ceir cydnabyddiaeth llawer cliriach erbyn hyn nad yw dulliau blaenorol wedi gweithio yn ôl y bwriad, a bod angen newid mawr.

Mae’n rhaid i ni felly symud oddi wrth system lle y mae anghenion pobl yn cael eu hasesu ac yr eir i’r afael â nhw, a dilyn system sy'n amddiffyn gallu unigolyn i wneud dewisiadau.

Ar ôl i Gyngor Conwy gael gwared ar wasanaethau hanfodol ar gyfer y gymuned fyddar a ddarparwyd drwy’r sector gwirfoddol, ysgrifennais atyn nhw gan nodi mai egwyddor Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 oedd bod yn rhaid i unigolion a'u teuluoedd allu cymryd rhan yn llawn yn y broses o bennu a bodloni eu hanghenion gofal a chymorth a nodir, gan ddilyn proses sy'n hygyrch ar eu cyfer nhw. Eu hateb? Wel, gwnaethon nhw ateb drwy ddweud bod eu hymateb i’r Ddeddf wedi arwain yn lle hynny atyn nhw’n sefydlu gwasanaeth anabledd integredig mewnol. Dywedodd y gymuned fyddar wrthyf eu bod yn cael eu hamddifadu o’u hannibyniaeth, eu hawliau dynol a’u hawliau i gydraddoldeb.

I gefnogi Bil awtistiaeth (Cymru), ysgrifennodd rhiant plentyn awtistig yn ei arddegau y penwythnos diwethaf: Nid wyf yn credu bod y gwasanaethau cymdeithasol na’r Ddeddf llesiant yn ddigon pellgyrhaeddol i gefnogi’r bobl hynod ddawnus ac arbennig hyn.'

Ar ôl imi ysgrifennu at Gyngor Wrecsam, i gefnogi rhiant mab â chanddo syndrom Down, a dynnodd sylw at y pwyslais yn y Ddeddf ar gynnwys pobl yn y penderfyniadau am sut y pennir ac y darperir eu gofal a'u cymorth, atebodd y cyngor nad y Ddeddf yw’r ddeddfwriaeth y mae'n rhaid cynnal y broses dendro oddi tani.

Mae Rhan 2 o god ymarfer y Ddeddf yn cydnabod y dylai’r gwaith o gael gwared ar y rhwystrau sy'n wynebu pobl fod yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd—yn gyson, meddai, â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu ar fyw'n annibynnol, sy'n pwysleisio swyddogaeth hollbwysig cyflogaeth wrth hyrwyddo annibyniaeth, hyder, iechyd a lles pobl, gan gynnig dihangfa rhag tlodi a galluogi pobl i gyfranogi yn y gymdeithas. Fodd bynnag, pan ysgrifennais i’n ddiweddar at Gyngor Sir y Fflint, ar ôl i gynnig gwaith amodol i unigolyn hemoffilig gael ei dynnu'n ôl yn dilyn ei archwiliad meddygol, yr ateb a gefais ganddynt oedd nad oeddent yn gallu dod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod y camau a gymerwyd ganddyn nhw wedi torri unrhyw elfen o'r ddeddfwriaeth.

Gan nodi’r gwirioneddau hyn a rhai eraill, megis y ffaith mai Llywodraeth Cymru yw’r unig Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig i beidio â chynnal lefelau cyllid ar gyfer Cronfa'r Teulu, sy’n cefnogi teuluoedd incwm isel a chanddynt blant anabl, mae'n amlwg bod angen i ni gael ffordd newydd o wneud pethau yng Nghymru.