Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad heddiw. Bydd ef a minnau, wrth gwrs, yn anghytuno a bydd gennym safbwyntiau gwahanol o ran yr angen am safbwynt mwy brys a mwy clir ar ran Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â’n hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd. Ond hoffwn ganolbwyntio fy nghwestiynau iddo ar yr hyn sydd wedi ei sicrhau yng nghyfarfod llawn diweddar Cydbwyllgor y Gweinidogion.
Yn ei ddatganiad, mae'n sôn am yr angen i sicrhau, cyn belled ag y bo modd, gonsensws ledled y DU. Yr hyn sy'n allweddol yn hyn o beth, wrth gwrs, yw’r dull priodol ar gyfer cyflawni hynny. Mae wedi crybwyll y bydd gan Gydbwyllgor y Gweinidogion gorff newydd—Cydbwyllgor y Gweinidogion (Trafodaethau Ewrop). A all roi gwybod i ni os bydd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei wneud yn gyfrifol ac yn atebol i'r corff Cydbwyllgor y Gweinidogion newydd hwn, neu a bydd yn fwy o gorff ymgynghorol ar gyfer gwasanaeth sifil Llywodraeth y Deyrnas Unedig? Ai swyddogaeth y corff hwnnw yw ceisio sicrhau’r safbwynt a rennir yn y DU y mae’n sôn amdano, neu a fydd gallu drwy’r corff hwnnw i sicrhau trefniadau Brexit pwrpasol ar gyfer pob rhan gyfansoddol o'r Deyrnas Unedig? Tybed os gall roi syniad i ni a yw'r corff hwnnw yn mynd i fod yn sail i sefyllfa drafod Brexit y DU.
Yn ei ddatganiad, mae'n cyfeirio at yr angen i addasu trefniadau cyllido Cymru er mwyn lliniaru a darparu ar gyfer y ffaith y byddwn yn tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, rydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn cytuno â hynny, ond a all ddweud wrthym a yw hyn eisoes yn nodwedd o drafodaethau ei Lywodraeth gyda'r wladwriaeth Brydeinig ar fframwaith cyllidol newydd i Gymru? A fydd y fframwaith hwnnw, o'r cychwyn cyntaf, yn ffactor yn effaith Brexit, neu a fydd angen ail-drafod fframwaith cyllidol newydd bron ar unwaith wrth fabwysiadu'r un cyntaf?
Mae'n sôn yn ei ddatganiad am ymfudo, ac rwy’n croesawu ei sylwadau yn condemnio senoffobia a hiliaeth yn llwyr, a’i neges, hefyd, o groeso i ddinasyddion yr UE sy'n byw yma nawr ac sy'n cyfrannu at ein gwlad, a bydd Plaid Cymru yn ymuno ag ef i gondemnio unrhyw hiliaeth a senoffobia sy'n digwydd. A yw wedi cael unrhyw syniadau pellach ar oblygiadau ehangach polisi mewnfudo newydd yn y DU ar economi Cymru a’r gwasanaethau cyhoeddus yn benodol? Rwy'n gofyn yn benodol ynglŷn â’r posibilrwydd i Gymru a Llywodraeth Cymru fod â’r gallu i gyhoeddi trwyddedau gwaith ar gyfer Cymru, er mwyn sicrhau, pan fo prinder sgiliau neu arbenigedd yn y sectorau cyhoeddus neu breifat, y bydd ei Lywodraeth yn gallu cyhoeddi trwyddedau gwaith parhaol a dros dro, fel nad oes gennym system un ateb i bawb ar gyfer mewnfudo yn y DU a allai fod yn anfanteisiol i Gymru, ond a allai fod, efallai—galwch fi’n sinig—er budd rhywle fel Dinas Llundain?
Mae'n briodol bod y Prif Weinidog wedi tynnu sylw at yr heriau cyfansoddiadol hynny sydd gennym a'r rhai a fydd yn dod i'r amlwg yn ystod y cyfnod sydd i ddod. Mae’r Bil diddymu Ewropeaidd, neu, fel y mae rhai yn cyfeirio ato, y Bil diddymu mawr, yn un o'r heriau hynny, yn enwedig mewn cysylltiad â’r materion sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd. Rwyf wedi gofyn iddo o’r blaen a oedd yn rhagweld yr angen am Fil diddymu Ewropeaidd ar gyfer Cymru. Tybed a all roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni o ran pa un a yw ef yn credu y bydd angen, ar ryw adeg neu’i gilydd, am Fil diddymu penodol ar gyfer Cymru neu hyd yn oed, os caf ddweud, Bil parhau ar gyfer Cymru, fel bod eglurder, cyn belled ag y mae'n mynd, o ran deddfwriaeth Ewropeaidd flaenorol a dyfarniadau Llys Cyfiawnder Ewrop blaenorol fel y maent yn ymwneud â materion sydd wedi'u datganoli yng nghyfraith Cymru, fel y cyfeiriodd atynt yn ei ddatganiad.
Rwy’n croesawu ei negeseuon clir iawn o ran y cyfansoddiad na fydd dim goddefgarwch ar ran Llywodraeth Cymru os daw i ymgais i ennill pŵer gan y wladwriaeth Brydeinig ar faterion sydd wedi'u datganoli, ac mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn cefnogi’r ymagwedd synhwyrol iawn ar gyfer cydweithredu rhwng llywodraethau’r ynysoedd hyn pan ddaw i faterion pan fo cydweithredu yn hanfodol—amaethyddiaeth, ffermio, a'r amgylchedd, er enghraifft. A all ef, felly, fynd â ni gam ymhellach a rhannu, efallai, gweledigaeth o sut y mae'n credu y gellir gwneud hynny ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd? Ydy ef, er enghraifft, yn credu y dylai Cydbwyllgor y Gweinidogion (Trafodaethau Ewropeaidd), ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, droi’n gyngor Gweinidogion y DU parhaol, sy'n rhannu gweision sifil ymysg yr holl Lywodraethau datganoledig a’r Llywodraeth ganolog, fel bod yna strwythur rhynglywodraethol parhaus sy'n gallu darparu ar gyfer gwahanol anghenion y Deyrnas Unedig ac sy’n gallu hwyluso cydweithredu, yn hytrach na'r modd braidd yn ad hoc ac annerbyniol, y byddwn i’n dadlau, yr ydym yn cynnal cysylltiadau rhynglywodraethol yn hyn o bryd?
Yn olaf, mae'n crybwyll cyhoeddiad Nissan. A fu Prif Weinidog y DU yn ddigon cwrtais i roi gwybod i'r Prif Weinidog a phenaethiaid llywodraethau eraill yng nghyfarfod Cydbwyllgor y Gweinidogion fod cyhoeddiad Nissan ar fin digwydd? Neu a yw'r Prif Weinidog yn cael yr argraff o natur y cyhoeddiad hwnnw bod ymagwedd y DU, os gallwn ni ei alw'n ymagwedd tuag at Brexit, yn ymagwedd fesul sector, yn hytrach na fesul cenedl? Ac a yw'n gallu egluro a fydd yr addewidion a wnaed i Nissan yn berthnasol i wneuthurwyr ceir yma yng Nghymru? Wrth gwrs, fel y soniodd, mae'n ddiwydiant hanfodol bwysig yma, sy'n werth £3 biliwn ac yn cefnogi tua 18,000 o swyddi. Ac yn olaf, Lywydd, a wnaeth ef ffonio llinell frys Brexit newydd Llywodraeth y DU, efallai i ofyn rhai o'r cwestiynau hyn, ac, os felly, a yw'n teimlo bod ei alwad yn bwysig iddynt? [Chwerthin.]