Part of the debate – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Unwaith eto, mae’n ymddangos ein bod yn dadlau’r refferendwm a gafwyd ym mis Mehefin. Nid oes pwynt dadlau ar hynny eto; mae hynny’n glir, ac mae'r canlyniad yn glir o ran y cyfeiriad. Ond rwy’n credu bod angen dos o realiti arnom yma. Pe bai gennym gytundeb masnach rydd â'r Unol Daleithiau, fyddai neb yn dymuno’i beryglu—neb. Ni fyddai neb yma yn dweud, ‘Yr hyn yr ydym ni eisiau yw bod mewn sefyllfa lle gallai fod rhwystrau ar waith mewn masnach rhyngom ni a'r Unol Daleithiau’. Mae'r UE yn farchnad lawer, lawer mwy. Mae'n fwy na America a Rwsia ar y cyd. Wrth gwrs, mae'r UE yn allforio mwy mewn gwerth ariannol i'r DU nag y mae’r DU yn ei wneud i'r UE, oherwydd ei fod wyth gwaith yn fwy na’r DU. Yn wir, ar ffurf canran, rydym yn allforio tua 40 y cant i’r farchnad Ewropeaidd, a daw 8 y cant o allforion Ewropeaidd i mewn i'r DU. Felly, fel canran, nid yw'r DU yn farchnad fawr o’i chymharu â gwledydd eraill.
Nawr, y perygl y mae'n rhaid i ni ei osgoi yw'r math o rethreg a gafwyd yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol, sydd ond yn llwyddo i uno gwledydd Ewrop yn ein herbyn. Yn sicr, nid dyna yr ydym ni eisiau ei wneud. Mae digon o wledydd yn Ewrop nad ydynt yn credu mewn integreiddio agosach fyth. Maen nhw yno—y Weriniaeth Tsiec yn un ohonynt, Denmarc yn un ohonynt —ac mae'n gywir dweud bod tensiynau yn yr UE, ond fe fyddai’n eironig pe unai’r UE yn erbyn y DU oherwydd agwedd y DU. Felly, mae'n rhaid i ni osgoi hynny ar bob cyfrif. Mae'n arwydd o haerllugrwydd imperialaidd i feddwl y bydd pawb yn syrthio wrth draed y DU; dydyn nhw ddim yn mynd i wneud hynny. Nid yw'r DU yn floc masnachu mawr. Nid yr UE mohoni, nid America mohoni, nid Rwsia, nid India. Mae’n rhaid iddi ymladd yn graff i allu gwerthu ei nwyddau.
O ran pwerau, roeddwn i'n meddwl ei fod bron yn gwneud achos dros annibyniaeth i Gymru ar un adeg. Gwn fod ei blaid wedi bod ar daith hir, ond nid oeddwn i’n credu bod y daith mor hir â hynny. Rydym ni eisiau sicrhau ein bod yn cael y math iawn o gyngor ar gyfer y dyfodol. Gallaf ddweud wrtho: rwy’n siarad â chwmnïau sydd wedi buddsoddi yng Nghymru ac rwy’n siarad â buddsoddwyr posibl, ac maen nhw i gyd, yn ddieithriad—yn ddieithriad—yn dweud wrthyf eu bod yn ansicr am y dyfodol, oherwydd nad ydynt yn gwybod beth fydd perthynas y DU ag Ewrop. Nawr, rhowch eich hun yn sefyllfa Airbus, rydych chi’n weithrediad Ewropeaidd hynod integredig, rydych chi eisiau gwybod pa un a fydd unrhyw rwystrau rhwng eich gweithrediadau yn Broughton a Toulouse. Nid ydyn nhw’n gwybod yr ateb i hynny eto. Rhowch eich hun yn sefyllfa cwmni Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rydych eisiau gwybod pa un a fydd tariff yn cael ei osod ar y peiriannau, a gaiff eu hallforio bob un—pob un—i’r Almaen, a thariff arall ar y ceir cyflawn sy’n dod yn eu hôlau. Nid yw’r atebion ar gael ar hyn o bryd. Nawr, pe gellir darparu’r atebion hynny, credaf ei fod yn gywir, credaf y gallwn ni gyrraedd sefyllfa lle gallwn weld sefydlogrwydd economaidd unwaith eto, ond nid oes gennym yr atebion hynny eto ac nid yw'r rhain yn faterion hawdd eu datrys. Mae angen y penderfyniad hwnnw arnom.
I mi, fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, mae’n rhaid i ni gael sefyllfa lle nad oes unrhyw dariffau, a byddai hynny o gymorth. Ond, gadewch i ni beidio ag esgus y bydd pethau yn iawn os nad oes gennym gytundeb ar ôl dwy flynedd—bydd rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn cael eu cymhwyso. Nid oes gan yr UE unrhyw reswm i fod yn garedig i'r DU, nid lleiaf oherwydd eu bod eisiau annog eraill a fyddai eisiau gwneud yr un peth. Y gwirionedd yw y gall yr UE chwilio am farchnadoedd eraill yn rhywle arall. Mae llawer iawn o filoedd o swyddi yng Nghymru sy'n dibynnu ar ein mynediad dilyffethair at y farchnad sengl. Pam y byddai rhywun yn dod i'r DU, yn hytrach na'r UE, os oedden nhw’n ddwy farchnad gwbl ar wahân? Pam mynd i farchnad o 60 miliwn yn lle marchnad o 500 miliwn? Nid oes unrhyw ffordd y bydden nhw’n dod yma. Mae’r holl gwmnïau hynny yn y DU sydd yma—Nissan yn un ohonynt. Yr unig reswm y mae Nissan yn y DU yw i allu gwerthu yn y farchnad Ewropeaidd—dyna ni. Mae Ford yn yr un sefyllfa, mae Airbus yn yr un sefyllfa. Os nad ydyn nhw’n gallu gwerthu heb rwystr—wrth gwrs y gallan nhw werthu—heb rwystr ar waith, nid oes rheswm iddyn nhw aros ac nid oes rheswm iddyn nhw ddod yma yn y lle cyntaf. Bydd, bydd masnach, ond nid ar yr un lefel ag sydd gennym ar hyn o bryd. Os oes gennym gytundeb masnach rydd gyda bloc masnachu mawr arall, ni fyddem yn dadlau dros sefyllfa a allai olygu rhwystrau tariffau. Mae'n ymddangos yn eithaf amlwg i mi ac i eraill rwy’n gobeithio.
Felly, mae llawer o waith i'w wneud. Mae'n sôn am gyfleoedd. Mae yna rai. Efallai na fydd rheolau cymorth gwladol yn gymwys, oni bai bod San Steffan yn gosod rheolau yn eu lle. Mae'n iawn i ddweud y gallwn lywio amaethyddiaeth a physgodfeydd, ond heb yr arian, ni allwn gael hyn o gwbl. Felly, mae angen cael setliad ariannol ar lefel y DU sy'n deg i bob gwlad, sy'n ein galluogi i ddefnyddio ein pwerau yn effeithiol. Dyna'r ansicrwydd sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd.
Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y sefyllfa bresennol, sy’n ansicr—nid oes dwywaith am hynny—yn cael ei datrys cyn gynted â phosibl. Wrth galon hynny y mae’r angen i Lywodraeth y DU ddatgan, nid ei strategaeth drafod fanwl—nid wyf yn disgwyl iddi gael hynny ar hyn o bryd, o bosibl, ac nid wyf yn disgwyl iddyn nhw ddweud wrthym amdano—ond o leiaf yr egwyddorion cyffredinol. Beth yw'r llinellau coch? Beth sy'n dderbyniol? Beth nad yw’n dderbyniol? Nid ydym ni wedi cyrraedd y cam hwnnw eto; mae angen i ni ei gyrraedd yn fuan.