Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Rwy’n sylweddoli’r cyfyngiadau amser felly byddaf i’n gyflym ac yn fyr. Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad. Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr y diweddariad a gawsom ac rwy'n edrych ymlaen at eich holi chi yr wythnos nesaf pan fyddwch chi’n dod i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y mater penodol hwn.
Credaf ei bod yn bwysig heddiw i dynnu sylw at y ffaith nad gweithgynhyrchu yw'r pris y byddwn ni’n ei dalu ar gyfer y sector ariannol yn ne-ddwyrain Lloegr. Bydd yn cael effaith ddinistriol ar fy etholaeth i a fy etholwyr i, fel y gwyddoch eisoes, gyda’r mater o ddur ac agweddau eraill. Felly, ni fyddaf yn ymhelaethu ar y pwynt hwnnw.
O ran y Bil diddymu mawr, rwy’n cytuno â Steffan Lewis: efallai nad y Bil 'mawr' yw'r term cywir—propaganda ydyw fel y nodwyd ganddo ddoe. Cafodd pwyllgor materion allanol Senedd yr Alban adroddiad mewn gwirionedd gan yr Athro Sionaidh Douglas-Scott ar y posibilrwydd o gael Deddf parhad, sy'n rhoi ar waith y posibilrwydd—pe na byddai’r deddfau yn cael eu trosglwyddo i’r Cynulliad hwn—o sicrhau bod ailddatganiad deddfau Ewropeaidd yn dod yma a’n bod ni yn eu cynnwys yn ein cyfreithiau ni. Nawr, mae'n bosibl y cânt eu diddymu gan Lywodraeth y DU, ond mae'n gwneud datganiad os ydym yn canfod bod y Bil diddymu mawr yn ceisio adennill gwybodaeth mewn gwirionedd. A wnewch chi edrych ar y cyfle hwn i sicrhau, os yw'r adennill i’w gael, bod gennym ddewis amgen sy'n gosod y sefydliad hwn wrth galon meysydd cyfrifoldeb datganoledig yr UE? Credaf ei bod yn bwysig i ni edrych ar hynny.
A wnewch chi hefyd dynnu sylw at y cwestiwn ynghylch pa drafodaethau yr ydych yn eu cael â gweinyddiaethau datganoledig eraill ynglŷn â'r sylwadau i wladwriaethau'r UE a chyrff partner eraill yr UE i sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed yn Ewrop? Mae'n bwysig ein bod ni’n gallu dylanwadu ar bobl yn Ewrop i sicrhau eu bod yn gwrando ar ein pryderon ni hefyd, er mwyn iddyn nhw ddeall, wrth gyd-drafod ar ran yr UE, safbwynt y Cymry, yn enwedig yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod honno'n agwedd bwysig.
O ran y Bil diddymu, a ydych chi wedi cael cyfle i ddechrau edrych ar y goblygiadau posibl yn sgil Mesur Cymru? Gan y bydd Mesur Cymru yn amlwg yn rhoi safbwynt gwahanol erbyn hyn, oherwydd bydd gennym bwerau a gadwyd yn y sefyllfa hon. Rydym eisoes yn poeni am rai o'r materion hynny a’r effaith y gallai hynny ei chael ar y cyfansoddiad. A byddwn i hefyd yn edrych i weld a ydych wedi cynnal unrhyw drafodaethau. Oherwydd yn amlwg, o’ch datganiad, mae Llywodraeth y DU ar chwâl ac nid yw wedi llwyddo i gael unrhyw fanylion o gwbl. A ydych chi wedi trafod materion megis caffael a'r rheolau o gwbl? O ran cymorth gwladol, er enghraifft, rwy’n tybio y bydd rheolau cymorth gwladol gan y Sefydliad Masnach y Byd os byddwn yn gadael yr UE heb unrhyw ystyriaeth. Felly, byddwn yn parhau i gymhwyso rheolau cymorth gwladol. A ydych chi wedi trafod â gwledydd datganoledig eraill ynghylch sut y byddwn yn defnyddio hynny fel rhyw fath o ddull ar y cyd o ymdrin â sefyllfaoedd pwysig ledled y DU? Mae ein hanghenion yn wahanol i rai yr Alban, mae anghenion yr Alban yn wahanol i anghenion gogledd Lloegr; mae'n bwysig ein bod yn cael barn gyfunol ar hynny.