Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Dyfarnwyd £650,000 o gronfa twf economaidd Cymru i Main Port Engineering ym mis Mawrth 2015. Cafodd y cyllid ei roi i gynorthwyo â buddsoddiad cyfalaf o £1.627 miliwn ar gyfer cyfleuster pwrpasol newydd ym mharth menter Dyfrffordd Aberdaugleddau. Ar y pryd, llwyddodd y cwmni i fodloni’r telerau ac amodau sy'n gysylltiedig â'r cymorth hwn yn llawn. Aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwr ar ôl gorchymyn dirwyn i ben gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, ac un o’r rhesymau dros hyn, yn ddiau, oedd cau purfa olew Murco yn 2014, a oedd yn un o'u prif gwsmeriaid.