Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Wel, rwyf yn gobeithio, ac ar sail yr ymatebion gan Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru, y bydd y glowyr a'u teuluoedd yn gweld bod Llywodraeth Cymru—yn wir, gyda'ch cymorth chi yn ogystal—yn gadarn iawn ar ochr ein glowyr. Ac, wrth gwrs, o ran pensiynau, fel y dywedodd Carl Sargeant, o ran ein galluoedd a’n pwerau, rydym wedi’n cyfyngu o ran yr hyn y gallwn ei wneud, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn dangos ein cefnogaeth yn glir ac, yn sicr, yn ystyried ffyrdd y gallem ddylanwadu ar y canlyniad.