Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Ar y penwythnos, roeddwn i’n bresennol yn lansiad y banc bwyd diweddaraf yn fy etholaeth i, ym Mhencoed, a hoffwn ddiolch i wirfoddolwyr banc bwyd Pen-y-bont ar Ogwr sydd bellach yn darparu gwasanaeth dosbarthu bwyd bob dydd i bob rhan o fy etholaeth. Byddant yn deall ac yn cytuno â mi, mewn byd delfrydol, na fyddai arnom angen banciau bwyd o gwbl. A gaf i alw am ddadl ar effaith y newidiadau, felly, i'r system budd-daliadau cynhwysol ar deuluoedd a chymunedau yng Nghymru a'r egwyddor o wneud i waith dalu yn dilyn yr adroddiad damniol gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol sy’n gysylltiedig ag Iain Duncan Smith, sy’n dangos y gallai’r rheiny sydd mewn gwaith fod hyd at £1,000 yn waeth eu byd mewn gwaith? A fyddai hi'n cytuno, pan fydd rhywun fel y cyn-Ysgrifennydd Gwladol, Iain Duncan Smith, y mae ei enw drwg yn hysbys i bawb, yn dweud bod hyn yn mynd i gosbi aelwydydd tlawd, sy’n gweithio, y dylem fod yn bryderus iawn?