Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Dylem yn wir fod yn bryderus iawn, ac mae'n anffodus iawn bod Iain Duncan Smith wedi gweithredu llawer o newidiadau a thoriadau o ran diwygio lles—rhai ohonynt, wrth gwrs, yr ydym yn sôn amdanynt heddiw—sy'n cael effaith andwyol uniongyrchol ar deuluoedd. O ran y pwynt ynghylch credyd cynhwysol a sut mae'n cael ei gyflwyno yng Nghymru, dim ond i hawlwyr ceisio gwaith sengl newydd yng Nghymru y mae wedi ei gyflwyno hyd yn hyn—nid yw hynny’n cynnwys hawliadau newydd gan gyplau a theuluoedd yn Shotton. Ond, gadewch i ni edrych ar yr hyn a ragwelwyd, nid yn unig gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol: amcangyfrifir gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y bydd toriadau i lwfansau gwaith yn y credyd cynhwysol yn effeithio ar tua 3 miliwn o deuluoedd ym Mhrydain Fawr a fydd yn colli ychydig dros £1,000 y flwyddyn ar gyfartaledd. Ac, wrth gwrs, y teuluoedd hynny yw'r rhai—llawer ohonynt yr ydym yn eu cynrychioli—sydd yn troi at y banciau bwyd hynny sydd ym mhob cymuned yng Nghymru.