Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Diolch yn fawr, Dai Lloyd. Eich pwynt cyntaf: wrth gwrs, rydym wedi lansio—mae'r Prif Weinidog wedi lansio—ymgyrch fawr newydd i hyrwyddo Cymru fel lle ardderchog ar gyfer meddygon, gan gynnwys meddygon teulu a'u teuluoedd, i hyfforddi, gweithio a byw ynddo. Mae hynny'n ymrwymiad clir sydd yn ein rhaglen lywodraethu. Mae eich pwynt yn un da o ran y rhai sydd eisoes yn ymarfer yn ogystal â'r cyfleoedd newydd i ddenu meddygon ifanc i ymarfer cyffredinol.
Eich ail bwynt: wrth gwrs, mae gennym ddatganiad ar Gymru Hanesyddol yr wythnos nesaf sy’n cael ei wneud gan Ysgrifennydd y Cabinet.