Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Rwy'n pryderu am effaith ailysgrifennu'r rheolau mewnfudo gan Lywodraeth y DU a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar les fy etholwyr. Yn benodol Bashir Naderi, sef Affgani 19 oed sydd wedi byw yn y wlad hon ers ei fod yn 10 oed ac sy’n wynebu’r bygythiad o gael ei alltudio yn ôl i Affganistan, er ei fod yn siarad gydag acen Gymreig ac yn Gymro, i bob pwrpas, ac a fydd mewn perygl dybryd os bydd yn cael ei alltudio. Yn ffodus, mae'r gefnogaeth eang iddo wedi arwain at atal gweithredu am bythefnos arall i adolygu ei achos, ond pan oedd ar fin gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol i’n cymdeithas, gan ei fod yn dilyn cwrs adeiladu yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, mae'n ymddangos yn gwbl anaddas, ar ôl derbyn yr unigolyn hwn fel ffoadur, ein bod wedyn yn ei anfon yn ôl i'r wlad y gwnaeth ffoi ohoni, yn dilyn llofruddiaeth ei dad, ryw naw mlynedd yn ôl.
Yn ogystal â hynny, rwy'n arbennig o bryderus am effaith bygythiad Llywodraeth y DU i gyfyngu ar nifer y myfyrwyr tramor sy'n cael dod i astudio yma yn y DU, oherwydd bydd hynny'n cael effaith fawr ar fusnesau llwyddiannus Prifysgol Caerdydd a phrifysgolion eraill sy'n canfod bod gallu cynnig addysg ragorol i bobl o dramor yn rhywbeth sy'n ein galluogi i wella ein sefyllfa o ran mantoli taliadau. Yn y ddau achos, er nad yw mewnfudo wedi'i ddatganoli, rwyf yn teimlo bod angen llawer mwy o drafodaeth ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar hyn o bryd a'r effaith y mae'n ei gael ar bobl yng Nghymru, ac roeddwn yn meddwl tybed a allwn ni gael dadl synhwyrol ac ystyriol ar y mater hwn.