Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Rwy'n ddiolchgar i Jenny Rathbone am ddod â’r pwyntiau yna i'n sylw yn y datganiad busnes heddiw. Diolch i chi am dynnu ein sylw at yr achos, ac rwy'n siŵr bod llawer ohonom wedi darllen amdano, ynghylch Bashir Naderi, ac mae'n galonogol gweld y gefnogaeth yn y gymuned ac sy'n cael ei mynegi yn y cyfryngau lleol i Bashir Naderi a'r gefnogaeth y mae wedi’i chael gan ei fam faeth a'i phartner a'r gymuned y mae wedi byw ynddi am y 10 mlynedd diwethaf. Felly, yn amlwg, er nad oes gennym ddylanwad o ran ein pwerau ar y polisi ynghylch mewnfudo, mae'n bwysig ein bod yn clywed y pwyntiau a wnewch heddiw, Jenny Rathbone, ac rydym yn gobeithio y bydd ei adolygiad yn llwyddiannus o ran ei sefyllfa.
Mae eich ail bwynt, wrth gwrs, yn bwynt sydd wedi ei wyntyllu'n fynych ar draws y DU, nid yng Nghaerdydd ac yma yng Nghymru yn unig, o ran y swyddogaeth bwysig y mae myfyrwyr o dramor yn ei chwarae, nid yn unig o ran ein prifysgolion, ond ein sylfaen ymchwil ac, yn wir, llawer o'r cyfraniadau a wnânt o ran ymchwil arloesol sydd wedyn yn arwain at swyddi a rhagolygon yn y wlad hon.