7. 3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 1 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 4:32, 1 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Hoffwn adleisio'r teimladau a fynegwyd yn gynharach am Bashir Naderi. Rwyf yn sylweddoli nad oes gan y Cynulliad gyfrifoldeb dros fewnfudo, ond mae gennym gyfrifoldeb dros gymunedau. Felly, rwy'n gofyn i’r Llywodraeth wneud datganiad o gefnogaeth i Bashir, ei deulu, a’i ffrindiau. Daeth Bashir i Gymru a byw’n hapus iawn yn Nhrelái am flynyddoedd, gan integreiddio'n dda iawn, aeth i ysgol uwchradd Gatholig Mary Immaculate, a byddwn yn wir yn hoffi i Lywodraeth Cymru sefyll o blaid y person hwn sy'n Gymro. Dylai hynny gael ei gydnabod a dylem wneud i’r Swyddfa Gartref wrando a, byddwn i'n dweud, cadw eu dwylo oddi ar Bashir a gadael iddo aros. Diolch.