Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Diolch yn fawr iawn, Neil McEvoy. Rwyf yn credu bod fy ymateb i Jenny Rathbone wedi dangos yn glir iawn ein cefnogaeth fel Llywodraeth Cymru, ond unwaith eto, mae'n galonogol iawn gweld bod gennym Aelodau yn ein Cynulliad sy'n gallu gwneud y pwyntiau hyn. Er, wrth gwrs, nad oes gennym y cyfrifoldeb am fewnfudo, mae gennym gyfrifoldeb i leisio ein barn am effaith y polisi mewnfudo a sut y gallwn gefnogi pobl yn y gymuned sy'n cael eu heffeithio ganddo.