Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau yna, ac, unwaith eto, dylwn fod wedi nodi’r gydnabyddiaeth gan Rhun ac Angela, ac yn awr Caroline, ynghylch swyddogaeth person busnes i ychwanegu safbwynt arall a phrofiad rhyngwladol. Ac, wrth gwrs, rwy'n falch iawn o glywed y croeso y mae’r Aelodau wedi ei roi i’r ffaith fod Dr Hussey wedi cytuno i gadeirio'r panel adolygu hwn.
O ran y grŵp cyfeirio o randdeiliaid, mae hynny’n rhywbeth y byddwn yn dymuno ei drafod eto gyda llefarwyr y pleidiau i sicrhau ei fod yn rhywbeth sy'n gwneud synnwyr, a sicrhau bod gennym ddigon o safbwyntiau i’w cynnwys ynghylch sut yr ydym yn manteisio ar yr arbenigedd hwnnw ym mhrofiad Cymru, a sut mae gwahanol bobl yn gweld gwahanol alwadau ar y gwasanaeth. Bydd gan Gonffederasiwn GIG Cymru safbwynt penodol ar amryw o’r heriau hyn, a byddwn yn canfod fod gan lawer o bobl yn y trydydd sector amryw o safbwyntiau yn ogystal. Rydym hefyd wedi clywed eisoes gan Rhun am bwysigrwydd cael safbwynt y claf, hefyd. Felly, dyna’r pethau yr wyf yn credu eu bod yn amlwg yn hawdd eu trin ac y gellir eu cyflawni, ac rwyf yn gobeithio y gallwn ddod, fel yr ydym wedi ei wneud o'r blaen, i gytundeb synhwyrol ar sut i sicrhau eu bod yn rhan wirioneddol o'r adolygiad a'i waith. Yna byddwn yn gweld y dylanwad hwnnw yn yr argymhellion a fydd yn cael eu darparu ar ddiwedd gwaith y panel adolygu.