Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am y ffordd onest, agored a thryloyw yr ydych wedi ymdrin â’r adolygiad hwn gydag Aelodau’r gwrthbleidiau. Bydd y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu heriau mawr yn y dyfodol wrth i'n poblogaeth dyfu a heneiddio, ac mae'n iawn ein bod yn adolygu’r ffordd orau o ddarparu’r gwasanaethau hynny yn y degawdau sydd i ddod. Rwy'n croesawu'r cyfle a roesoch i ni i helpu i ddylanwadu ar gylch gorchwyl a chyfansoddiad y panel, ac edrychaf ymlaen at adolygu telerau’r panel pan gânt eu cyhoeddi yn nes ymlaen. Un o'n pryderon mwyaf ynghylch yr adolygiad hwn oedd sicrhau bod y panel yn wirioneddol annibynnol ac yn cael ei arwain gan arbenigwyr. Rwy'n falch o weld y bydd y panel yn cynnwys unigolion o Ymddiriedolaeth Nuffield a'r Sefydliad Iechyd a Chymrawd y Coleg Nyrsio Brenhinol.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar y bydd y panel yn cynnwys cynrychiolydd busnes. Mae'n bwysig ein bod yn cael mewnbwn gan y sector preifat, ac edrychaf ymlaen at gael gwybod pwy fydd yn llenwi'r swydd hon. Rwy'n falch hefyd y byddwn yn elwa ar gael safbwynt rhyngwladol gan yr Athro Don Berwick. Hoffwn hefyd groesawu penodiad Dr Hussey yn gadeirydd yr adolygiad. Mae gan Dr Hussey brofiad o'r GIG yng Nghymru ac yn Lloegr, a bydd ei harbenigedd hi ar y panel hwn yn amhrisiadwy.
Mae gennyf un cwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet, sef: pryd y byddwch chi mewn sefyllfa i rannu gyda ni gyfansoddiad y grŵp cyfeirio ehangach o randdeiliaid?
Diolch i chi unwaith eto am eich datganiad. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi a'r panel adolygu fel y gallwn ddarparu system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n ymateb i anghenion poblogaeth Cymru ac yn gydnerth o ran heriau iechyd yn y dyfodol. Diolch yn fawr.