Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Diolch, Lywydd. Diolch i chithau, hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Rwyf innau hefyd, yn falch o weld y cyfeiriad at ymchwil sy'n bodoli eisoes, er ei bod yn amlwg bod angen gwneud gwaith ynglŷn â hynny yn hytrach na dim ond ei derbyn fel ag y mae.
Roeddwn mewn cynhadledd Cronfa'r Brenin yn Llundain yn ddiweddar a chefais y cyfle i ymgysylltu ag awdurdodau lleol o wahanol rannau o Loegr—nid oedd unrhyw un o Gymru yno ar wahân i un person o’r gogledd—ac maen nhw’n datblygu modelau gwahanol iawn, gan ddibynnu ar ba ran o Loegr y maent yn ei chynrychioli. Mae un ohonynt mewn gwirionedd wedi mynd cyn belled â throsglwyddo ei garfan gyfan o weithwyr cymdeithasol i'r GIG fel eu bod bellach yn gyflogeion y GIG. Nawr, mae'n ddigon posibl y bydd gofynion gofal cymdeithasol yn ormod i awdurdodau lleol ar eu pennau eu hunain, ond rwyf yn credu bod perygl gwirioneddol, onid oes, y bydd gennym wasanaeth wedi’i ganoli anferth yn y pen draw os na fyddwn yn ofalus.
Felly, a allwch chi ddweud wrthyf a fydd y panel yn cael digon o amser i ystyried amrywiaeth o fodelau ar gyfer darparu gwasanaethau integredig, yn enwedig y rhai sydd o bosibl o wahanol rannau o'r byd, sy’n helpu i wynebu'r broblem anochel—un ymarferol a diwylliannol—y gallai'r GIG yn y pen draw lyncu’r cyfrifoldeb dros ofal cymdeithasol? Rwyf yn codi hyn oherwydd bod y GIG, wrth gwrs, eisoes yn profi anhawster wrth fodloni ei anghenion gan ddefnyddio’r adnoddau sydd eisoes yn bodoli, ac ni fyddwn yn hoffi meddwl y byddai gofal cymdeithasol yn dod yn un o'r meysydd hynny sy'n cystadlu am sylw o'r tu mewn i GIG mwy o faint. Diolch.