Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Diolch am y pwynt—nodaf y darlun yr ydych yn ei ddisgrifio, sef bod gan awdurdodau lleol yn Lloegr ymatebion amrywiol iawn, gan ystyried y boblogaeth sydd ganddynt, yr adnoddau ariannol sydd ganddynt. Ac, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod hynny'n rhan o'r her yr ydym yn awyddus i geisio ei hosgoi: cael system amlochrog lle, mewn gwirionedd, na allwch ddeall rhesymeg hynny, a sut mae hynny'n diwallu anghenion y dinesydd. Dyna ran o'r rheswm dros gael yr adolygiad hwn, wrth gwrs—ceisio deall sut y gall iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru weithio mewn ffordd fwy integredig gyda’i gilydd, a deall y dylem eu hystyried fel system gyfan. Dyna ran o'r dull yr ydym yn ceisio ei ddefnyddio yng Nghymru, nid yn unig o ran polisi ac arweinyddiaeth, ond wedyn wrth ddarparu gwasanaethau hefyd. Dyna pam yr ydym yn rhoi cymaint o bwyslais ar integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol wrth ddarparu’r gwasanaethau hynny.
Bydd hynny'n sicr yn rhan o'r adolygiad. Mae o fewn y telerau. Rwyf yn credu bod eich ofn ynghylch y GIG yn canoli ac yn cymryd drosodd ac yn llyncu gofal cymdeithasol ac yna'n anghofio amdano—rwyf yn sylweddoli bod y pryder yn cael ei fynegi mewn ffordd arbennig i wneud y pwynt, ond rydym yn ceisio gweld sut y gallwn gael system wirioneddol integredig yn y dyfodol i gydnabod pwysigrwydd y gofal cymdeithasol hwnnw.
Yn wir, mae llawer o'r hyn yr ydym eisoes yn ei wneud gyda'r bensaernïaeth ddeddfwriaethol, gyda Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn ymwneud â hybu ac, ar adegau, gorfodi cydweithio. Felly, mae'r comisiynu ar y cyd a fydd yn digwydd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol o ran amryw o feysydd gofal preswyl, y gyd-ddealltwriaeth o anghenion o fewn poblogaeth benodol, y byrddau patrwm rhanbarthol—mae rhywbeth ynghylch sut yr ydym yn symud ymlaen â hynny ac yn gwneud iddo weithio. Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys profiad ar lefel genedlaethol a rhyngwladol ynghylch yr hyn sydd eisoes wedi digwydd, bydd yn ystyried ble yr ydym ar hyn o bryd, a bydd yn rhoi argymhellion ar gyfer y dyfodol. Fel y dywedais yn gynharach, rwyf yn disgwyl i’r argymhellion hynny fod yn realistig, y bydd modd eu gweithredu ac, ar yr un pryd, y byddant yn wirioneddol heriol. Wedi'r cyfan, dyna bwynt a phwrpas cael yr hyn yr wyf yn gobeithio y bydd yn sgwrs o ddifrif, annibynnol ac aeddfed am y dyfodol.