Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn gwybod a yw'n ben-blwydd arnoch heddiw ond yn sicr rydych wedi cael llawer iawn o ganmoliaeth, yn y ddadl ddiwethaf ac yn yr un hon. Yr wyf i yn ddiedifar— [Torri ar draws.] Yr wyf i yn ddiedifar yn mynd i barhau yn yr un modd. Diolchaf i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad ar y gwaith o adeiladu’r SCCC hir-ddisgwyliedig yn Llanfrechfa, ac rwy'n siŵr y bydd y newyddion yn cael ei groesawu gan bobl y de-ddwyrain a'r rhanbarthau cyfagos. Rwyf hefyd yn ei longyfarch ar weithredu mor brydlon, o leiaf ar ei ran ef, yn enwedig gan fod hyn mor gynnar yn ei gyfnod fel Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Hoffwn hefyd nodi mewnbwn sylweddol dros nifer o flynyddoedd gan yr AC ar gyfer Torfaen, Lynne Neagle, sydd wedi helpu i sicrhau'r prosiect hwn. Gwn fod y prosiect hwn yn agos iawn at ei chalon. Yn amlwg, hoffwn sôn am fewnbwn Nick Ramsay i’r prosiect hwn yn ogystal.
Fel y nododd yn ei ddatganiad, mae Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan yn awr yn rhydd i weithredu'r prosiect hwn a bwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu cyn gynted ag y bydd yn gyfleus iddynt. Mae hefyd, wrth gwrs, yn rhyddhau’r bwrdd i lunio strategaeth gyflawn ar gyfer gwasanaethau ar draws rhanbarth cyfan y bwrdd. Rwy'n edrych ymlaen at ei weld yn trawsnewid y profiad gofal iechyd cyfan ledled y de-ddwyrain, ond byddwn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, fel y crybwyllwyd gan Lynne Neagle yn gynharach, eich bod yn cadw llygad ar yr hyn sy'n mynd ymlaen a gwneud yn siŵr bod y bwrdd yn cyflawni'r addewidion hyn. Diolch.