– Senedd Cymru am 5:00 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar y ganolfan gofal arbenigol a chritigol, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch i chi, Lywydd. Ddoe, cyhoeddais yr achos busnes llawn ar gyfer y ganolfan gofal arbenigol a chritigol, a elwir hefyd y SCCC, yn Llanfrechfa Grange a rhyddhau’r cyllid cyfalaf o oddeutu £350 miliwn. Disgwylir i'r ysbyty agor yn 2022. Mae hyn yn newyddion da i’r 600,000 a mwy o bobl a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan ac, yn wir, pobl eraill yn yr ardal gyfagos a fydd yn cael gwasanaethau gan yr ysbyty newydd hwn. Mae'n nodi’r cam nesaf yn y broses o roi’r strategaeth Dyfodol Clinigol ar waith. Bydd yr Aelodau'n cofio, wrth gwrs, y buddsoddiad sylweddol a wnaed yn Ysbyty Ystrad Fawr ac Ysbyty Aneurin Bevan, a agorodd yn 2010 a 2011 yn y drefn honno.
Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i ddatblygu gwasanaethau gofal sylfaenol, ac yn gweithio'n agos gyda'i awdurdod lleol parter ar ymagwedd integredig at wasanaethau cyhoeddus. Mae enghreifftiau arloesol yn cynnwys gweithio gydag awdurdodau lleol a'r trydydd sector i nodi pobl hŷn sydd mewn perygl a datblygu cynllun ‘Stay Well’ gyda'r person; cyflwyno nyrsys diabetes arbenigol mewn gofal sylfaenol; a thrin dirywiad macwlaidd gwlyb sy'n gysylltiedig ag oedran yn y gymuned.
Bydd y SCCC yn cynnig amgylchedd hynod arbenigol i gefnogi triniaeth cleifion sydd angen gofal brys cymhleth a dwys yn y rhanbarth. Bydd yn chwarae rhan allweddol yn rhan o'r system gofal iechyd ar gyfer de Cymru yn ei chyfanrwydd a bydd yn ganolbwynt ar gyfer un o'r tair cynghrair gofal acíwt a sefydlwyd yn dilyn rhaglen de Cymru. Rwy’n disgwyl i'r GIG wella canlyniadau i gleifion yn barhaus, a gwyddom y bydd cyfuno'r gwasanaethau mwy arbenigol yn helpu i gyflawni'r nod hwnnw. Bydd y SCCC yn cynnig amgylchedd pwrpasol a modern a fydd yn caniatáu i dimau amlddisgyblaethol hynod arbenigol ddarparu'r driniaeth a'r canlyniadau gorau posibl i gleifion.
Y model sy'n esblygu ym mwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan yw model gwasanaeth yn seiliedig ar egwyddorion darbodus sy'n sicrhau mynediad lleol at y rhan fwyaf o wasanaethau, ac ar yr un pryd yn dwyn ynghyd arbenigedd mewn meysydd mwy arbenigol i sicrhau gwasanaethau cynaliadwy ac o ansawdd uchel. Mae'r bwrdd iechyd yn paratoi cynlluniau ar gyfer ysbyty Brenhinol Gwent a Nevill Hall, ac ar gyfer Ysbyty St Woolos. Rwy'n disgwyl i’r cynlluniau hynny fod yn arloesol o ran eu cwmpas, ac yn sicrhau bod yr ysbytai hyn yn chwarae eu rhan wrth gefnogi gofal sylfaenol ac ysbytai cyffredinol lleol, gyda chefnogaeth y SCCC. Mae fy mhenderfyniad i gymeradwyo'r SCCC yn dod â disgwyliad y bydd y bwrdd iechyd yn sicrhau bod ei ddarpariaeth gofal iechyd yn gweithio ar ffurf system integredig, effeithiol ac effeithlon.
Mae cefnogaeth i'r SCCC yn arwyddocaol yn strategol, a hynny nid yn unig i fwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan, ond i dde Cymru yn ei chyfanrwydd, fel y soniais yn gynharach. Cafodd y SCCC ei gefnogi gan raglen de Cymru—proses gynllunio bwysig sy'n cynnwys nifer o fyrddau iechyd. Rwyf wedi bod yn glir iawn ers dod yn Ysgrifennydd y Cabinet bod cynllunio a datblygu gwasanaethau ar lefel ranbarthol yn hanfodol wrth i ni weithio i wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Mae’n rhy rhwydd i ffiniau sefydliadol rwystro cynllunio effeithiol sy’n canolbwyntio ar ddarparu manteision i ddinasyddion.
Gwneuthum yn glir fy uchelgais i fod y Gweinidog iechyd olaf i orfod gwneud penderfyniad ar y cynnig SCCC ac i ddarparu sicrwydd go iawn cyn gynted ag yr oedd modd i mi wneud hynny. Gwneuthum hefyd ymrwymiad i wneud y penderfyniad hwnnw erbyn diwedd mis Hydref, ac rydw i wedi cyflawni hynny. Rwy’n deall y rhwystredigaeth y mae rhai wedi’i theimlo ynghylch yr amser y mae wedi’i gymryd i gyrraedd y pwynt hwn. Fodd bynnag, fy mlaenoriaeth i oedd gwneud y penderfyniad cywir yn dilyn archwiliad cadarn o’r achos busnes SCCC. Roedd yn rhaid i mi fod yn siŵr bod y SCCC yn addas, nid yn unig ar gyfer Gwent, ond ar gyfer cyfluniad gwasanaethau iechyd ar draws y de. Dyna pam y rhoddais gyfarwyddiadau i swyddogion ymgymryd â mwy o waith dros yr haf, ar ôl adolygiad annibynnol.
Mae fy mhenderfyniad i gymeradwyo'r SCCC yn dystiolaeth ymarferol gan y Llywodraeth hon y byddwn ni’n cefnogi newidiadau sy'n dod â manteision, nid yn unig ar lefel leol, ond ar draws y system iechyd a gofal ehangach. Rwy’n disgwyl yn awr i'r GIG ddatblygu ar y penderfyniad hwn a chyflymu'r broses ddatblygu er mwyn sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn parhau i ganolbwyntio ar ansawdd, arloesedd, integreiddio ac uchelgais ar ran y bobl y mae'n eu gwasanaethu.
Rwy’n croesawu'r cyhoeddiad, ond dylwn ychwanegu ein bod wedi aros yn hir iawn amdano a dweud y lleiaf. Af yn syth bin at yr amryw gwestiynau sydd gennyf. Mae canolfan £350 miliwn yn ddiwerth heb y staff medrus angenrheidiol i weithio ynddi. Dylwn i ofyn: a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn siŵr na fydd recriwtio yn broblem? Rwy’n dyfalu pa ateb a roddir i mi, y dylai cyfleuster o’r radd flaenaf fel hwn fod yn atyniad gwirioneddol i bobl weithio yn y GIG. Sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu defnyddio'r cyfleuster SCCC fel offeryn recriwtio ynddo’i hun?
Yn ail, pa mor hyblyg y bwriedir i’r adeilad hwn fod? Rwy’n meddwl yma am addasiadau yn y dyfodol a pha addasiadau yn y dyfodol y gallai fod gan y Llywodraeth mewn golwg. Yn drydydd, beth yw’r bwriad o ran defnyddio'r prosiect hwn fel hwb caffael i gwmnïau o Gymru, gan gynnwys y defnydd o ddur Cymru wrth ei adeiladu?
Ac yn olaf, o ran trafnidiaeth, rwy'n pryderu bod gennym ddatblygiad mawr yma a adeiladwyd gyda'r car mewn golwg, yn hytrach na thrafnidiaeth gyhoeddus ac yn hytrach na, yn sicr, rheilffyrdd, gan nad yw ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Pa ymrwymiad all Ysgrifennydd y Cabinet ei roi ar sicrhau bod trafnidiaeth gynaliadwy yn cael ei hystyried o ddifrif wrth gynllunio datblygiadau seilwaith y GIG yn y dyfodol o ystyried, efallai, nad yw’r cydamseru rhwng anghenion trafnidiaeth ac iechyd wedi’i gyflawni cystal ag y gellid efallai yn yr achos penodol hwn?
Diolch am y pwyntiau a'r cwestiynau. Rwy'n credu ei fod yn werth ein hatgoffa ein hunain nad yw’r ddau safle presennol yn Nevill Hall ac yn y Gwent yn uniongyrchol agos at gysylltiadau rhwydwaith rheilffyrdd. Wrth ddylunio a chyflwyno system gofal iechyd y dyfodol, wrth gwrs, mae mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn bwysig, felly byddwn yn disgwyl y byddai mynediad i i'r safle hwn drwy drafnidiaeth gyhoeddus wrth iddo gael ei ddatblygu. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig cydnabod, i lawer o bobl sy'n mynychu, yn enwedig ar gyfer gofal brys, bod llawer o bobl allan yna sy’n gyrru eu hunain, maent yn tueddu i beidio â mynd ar fws os ydynt mewn argyfwng, ond hefyd mynediad i wasanaethau brys eraill. Ond, bydd y cynllun trafnidiaeth yn amlwg yn rhan o'r hyn y mae angen i'r bwrdd iechyd a'i bartneriaid ei ystyried wrth gyflwyno'r ysbyty yn llwyddiannus.
Mae hefyd yn werth ystyried eich pwynt am gaffael, oherwydd yn amlwg mewn prosiect cyfalaf o'r maint hwn, rydym yn disgwyl gweld manteision gwirioneddol yn dod o’r gwariant hwnnw yn y cyfnod adeiladu. Os ydych chi wedi gweld, er enghraifft, raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, byddwch wedi gweld enillion sylweddol yn sgil caffael pob un o'r safleoedd hynny. Rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun y nifer o brentisiaid lleol sydd wedi manteisio ar y gwaith adeiladu hefyd, ac rwy’n disgwyl i hynny fod yn wir eto. Gyda buddsoddiad o £350 miliwn, rwyf yn sicr yn disgwyl gweld cynnydd go iawn yn sgil caffael ac adeiladu’r safle, ac nid dim ond ei weithredu.
Mae hynny'n dod â mi at eich pwynt am y gweithlu, ac ni ddylech synnu fy nghlywed yn dweud y dylai darparu’r safle newydd hwn, mewn gwirionedd, helpu i recriwtio a chadw gweithlu. Mae wedi bod yn thema gyson iawn ymhlith aelodau staff bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan, ond hefyd byrddau iechyd cyfagos hefyd, os na allwn ad-drefnu rhannau o'r ffordd y mae'r ystâd gyfalaf yn gweithio a'r ffordd yr ydym yn darparu’r gwasanaethau hynny, rydym yn annhebygol o allu recriwtio yn llwyddiannus yn awr ac yn y dyfodol. Felly, mae hon yn broses ailfodelu bwysig iawn mewn sawl ffordd. Dylai recriwtio elwa'n gadarnhaol ar wneud y penderfyniad hwn am sut y bydd y dyfodol yn edrych. A phan fydd yn weithredol ac y gall pobl weld cyfleuster pwrpasol gyda modelau gofal sy'n briodol ar gyfer y presennol a’r dyfodol, dylai hynny olygu bod pobl o bob gradd a phob proffesiwn yn fwy tebygol o fod eisiau gweithio yn y sector hwn. Nid yw yn ymwneud â’r ysbyty yn unig, wrth gwrs. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae hyn yn rhan o'r system gofal iechyd gyfan: sut y mae’r maes gofal sylfaenol yn gweithio yn fwy effeithiol gyda'i gilydd, sut y mae gofal yn mynd allan i'r gymuned, gan symud i ffwrdd o ysbytai, yn ogystal â'r hyn y mae angen o ddifrif iddo ddigwydd mewn canolfan arbenigol yn cael ei ddarparu mewn canolfan wirioneddol arbenigol sy'n addas at ei diben.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich datganiad heddiw. Rhywfaint o newyddion da, o'r diwedd; mae wedi bod yn amser hir yn cyrraedd. Pan oeddech yn crybwyll rhwystredigaeth rhai Aelodau, rwy’n meddwl bod llawer iawn o'r rhwystredigaeth honno wedi dod gan yr Aelod dros Dorfaen a mi dros yr ychydig wythnosau a misoedd diwethaf. Rydym wedi galw am y datganiad hwn, ac roeddech wedi dweud y byddech yn ei ddarparu ddiwedd mis Hydref, ac rydych wedi gwneud, felly diolch ichi am hynny.
Dywedasoch wrthym yr hyn yr ydym wedi bod eisiau ei glywed a’r hyn y mae clinigwyr wedi bod yn galw amdano ers amser hir iawn yn y de-ddwyrain. Rwy'n credu i mi fynd i’m cyfarfod Dyfodol Clinigol Gwent cyntaf ar ddatblygiad y ganolfan gofal critigol arbenigol hon yn ôl yn 2004—gwaith ymddiriedolaeth GIG Gwent yn y dyddiau hynny. Felly, rydym yn wir wedi disgwyl yn hir i gael y penderfyniad hwn. Yn wir, byddwn wedi aros hyd yn oed yn hirach erbyn yr amser y bydd yn agor o'r diwedd yn 2022. Felly, yn gyntaf oll, a gaf i ofyn pam y mae wedi cymryd cyhyd i gyrraedd y pwynt hwn, o ystyried y lefel o gefnogaeth gan glinigwyr a'r cyhoedd? Rwy’n sylweddoli y bu’n rhaid rhoi trefn ar nifer o bethau er mwyn i ni gyrraedd y pwynt hwn, ond mae wedi cymryd llawer gormod o amser. Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Gwent a Nevill Hall yn gwegian dan straen y gofynion sy'n cael eu rhoi arnynt. Rydym ni i gyd yn cael cwynion gan etholwyr am y sefyllfa hon, ond mae diwygio’r gwasanaethau ysbytai hyn—ac rwyf wedi gorfod dweud hyn wrth fy etholwyr—wedi bod yn ddibynnol ar aros i’r ganolfan gofal critigol gael ei datblygu fel y gellir rhyddhau pwysau. Felly, mae wedi bod yn fater o gael y ceffyl o flaen y drol yn yr ystyr hwnnw.
Yn ôl yn y cyfarfodydd hynny 10 mlynedd yn ôl, rwy’n cofio cael gwybod bod ailddatblygu Nevill Hall 10 mlynedd yn y dyfodol, y tu ôl i ddatblygiad y ganolfan gofal critigol. Wel, rydym mewn gwirionedd y tu hwnt i'r pwynt yn awr lle’r oedd Nevill Hall i fod i gael ei ailddatblygu, felly a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr amserlen ar gyfer ailddatblygu Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent? Nid wyf yn golygu amserlen gadarn, ond a allwch chi o leiaf roi syniad i ni pryd y byddwch yn meddwl y bydd yr ysbytai hynny, neu ysbyty cyffredinol newydd, yn dod ar-lein? A fydd hyn yn peidio â digwydd yn llawn hyd nes trosglwyddo gwasanaethau yn 2022, neu a ydych yn rhagweld cyfnod pontio graddol i'r safle newydd a datgomisiynu fesul cam ar wasanaethau mewn ysbytai eraill, gyda chapasiti yn cael ei ryddhau wrth i ni fynd ar hyd y ffordd, neu a ydych yn gweld y bydd popeth yn digwydd ar ôl 2022?
Er bod y cynllun wedi cael cefnogaeth aruthrol, mae’n wir i ddweud bod cryn bellter o dde Powys i'r Fenni ac mae'n amlwg yn bellach o lawer i safle Llanfrechfa Grange yng Nghwmbrân. Felly, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i bobl gogledd sir Fynwy a de Powys na fydd yr amseroedd teithio hirach hyn yn achosi gormod o broblemau, a pha waith modelu sydd wedi’i wneud ar gyfer amseroedd teithio mewn ambiwlans? Mae'n llai o broblem i mi yn fy etholaeth i, ond rwy’n gwybod yn etholaeth Kirsty Williams ym Mrycheiniog a Maesyfed y bu pryder am yr amseroedd teithio hirach i'r ganolfan newydd. Felly, pa waith sydd wedi'i wneud yn y maes hwn?
Rydym yn awr yn wynebu pump neu chwe blynedd arall cyn i’r ganolfan newydd agor. Pa sicrwydd sydd ar gyfer recriwtio yn ystod y cyfnod hwnnw? Mae hyn wedi ei godi eisoes gan Rhun ap Iorwerth. A yw'r rhai sy'n cael eu recriwtio i'r GIG yn cael eu gwneud yn ymwybodol o'r newidiadau hyn? Mae angen i ni leddfu unrhyw ansicrwydd yn ystod y cyfnod pontio.
Rwy’n cytuno â'ch sylwadau, Ysgrifennydd y Cabinet, bod hyn yn ymwneud â chreu GIG integredig, effeithlon, gydag un canolfan yn ymdrin â'r triniaethau brys mwyaf cymhleth, gan ryddhau capasiti ar draws gweddill ardal y bwrdd iechyd ar gyfer gofal sylfaenol gwell. Wrth gyfeirio at y pryderon am drafnidiaeth gyhoeddus, nid yw Cwmbrân mor bell â hynny oddi ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fel fy mod yn credu y bydd yn achosi problemau enfawr—mae llawer o wasanaethau bws a thrên da i'r ardal honno. Wrth gwrs, holl bwynt y ganolfan gofal critigol yw nad yw’n mynd i fod yn ysbyty cyffredinol lle mae pobl yn gyffredinol yn galw heibio mewn car; mae'n mynd i fod yn lle y bydd pobl yn ymweld ag ef mewn ambiwlansys ar ôl bod mewn damweiniau difrifol—pobl sydd â chyflyrau difrifol. Felly, nid wyf yn credu bod hynny'n gymaint o broblem ag y byddai yn achos ysbyty cyffredinol, ond serch hynny rwy'n falch eich bod wedi mynd i’r afael a hynny yn gynharach.
Roedd Dyfodol Clinigol Gwent yn ddibynnol, nid yn unig ar y ganolfan newydd hon, ond hefyd ar wasanaethau cymunedol o ansawdd uchel. Rwy'n cofio edrych ar ddiagram gyda phyramid. Roedd gennych y ganolfan gofal triphlyg ar y brig, roedd gennych ofal sylfaenol yn y canol ac roedd gennych wasanaethau cymunedol ar y gwaelod. Bryd hynny, roedd clinigwyr yn glir iawn na fyddai'r system newydd hon yn gweithio oni bai bod y gwasanaethau cymunedol hynny ar waelod y pyramid yn cael eu dwyn ar-lein ar yr un pryd. Ymddengys eich bod yn nodi yn eich datganiad eich bod yn hyderus ynghylch lefel y cynnydd, cyfradd y cynnydd, a wnaethoch wrth ddatblygu’r gwasanaethau cymunedol hynny. A allwch chi roi sicrwydd pan fyddwn yn cyrraedd 2021, 2022—pryd bynnag y bydd y dyddiad agor terfynol—y bydd hyn i gyd yn gweithio gyda'i gilydd fel gwasanaeth GIG integredig, cydlynol yn y de-ddwyrain, ac na fydd unrhyw syndod ar y pwynt hwnnw mewn cysylltiad â diffyg capasiti nad yw wedi ei ragweld ar hyn o bryd? Diolch.
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Rwy’n cydnabod eich pwynt am hyd y cyfnod a'r ffaith y bu lobïo, ac, unwaith eto, rwy’n cydnabod bod yr Aelod dros Dorfaen wedi dod â dirprwyaeth o Aelodau i fy ngweld yn yr amser byr yr wyf wedi bod yn Ysgrifennydd y Cabinet ar fwy nag un achlysur, ac rydw i wedi bob amser wedi ei chael hi i fod yn unigolyn pendant a dymunol, byddwch yn falch o wybod. Mae hyn wedi bod yn broblem dros gyfnod o amser, ond rydym wedi gwneud dewis ac rwyf wedi gwneud yr hyn y dywedais y byddwn yn ei wneud. Dydw i ddim yn mynd i ailddweud yr hanes am yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, faint o amser y mae wedi’i gymryd i gyrraedd yma; mae'n bwysig i edrych ar ble yr ydym ni nawr a beth y byddwn yn ei wneud nawr gyda'r buddsoddiad sylweddol a'r heriau sy'n dod, ynglŷn â chyflawni'r prosiect hwn ond hefyd yr her y mae'n ei chyflwyno yn rhannau eraill o'r ystâd, nid dim ond yng Ngwent, ond y tu hwnt yn ogystal. Y gwasanaethau yn Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent y cyfeiriwch atynt fel rhai sy’n ‘gwegian’, wel, rhan o'r her yw, pe na byddem wedi gwneud penderfyniad a rhoi rhywfaint o sefydlogrwydd am yr hyn oedd yn mynd i ddigwydd yma a datganiad diffiniol go iawn, mewn gwirionedd byddai'r gwasanaethau hynny wedi bod mewn sefyllfa hyd yn oed yn fwy heriol. Felly, mae'r penderfyniad yn wirioneddol bwysig i’r gwasanaethau hynny fel y maent yn bodoli yn awr, a chael mewnbwn priodol fel y bydd rhai o'r gwasanaethau hynny pan fyddant yn cael eu cyfeirio i leoliad mwy priodol wedyn, a fydd mewn gwirionedd yn well ar gyfer staff a'r claf.
Mae'n cysylltu â’ch pwynt ynghylch mynediad, oherwydd, yn wir, fe wnaethoch y pwynt hwn hefyd ynghylch pwy fyddai'n mynd i'r SCCC—pa fath o gleifion fydd yn mynd yno? Mewn gwirionedd, ar gyfer y bobl hynny, rydych am gael mynediad at y gofal o'r ansawdd gorau, dyna beth yr ydych ei eisiau. Nid ydych eisiau mynediad at ofal lleol os nad yw y gorau ac os nad yw'n ofal priodol ychwaith. Mae hyn yn ymwneud â chyflawni ar ofal priodol mewn lle priodol: canolfannau arbenigol sy'n darparu gofal arbenigol, ysbytai eraill sy'n darparu mathau eraill o ofal, ac yna gofal sylfaenol a chymunedol hefyd. Yn wir, mae gan Aneurin Bevan record dda o'r newid y maent yn ei gyflawni o fewn y gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol. Gwneuthum y cyhoeddiad yng Nghwmbrân, gan ymweld yn fwriadol â gwasanaeth yng Nghwmbrân sy'n cydnabod cysylltiad rhwng yr awdurdod lleol, y gwasanaeth iechyd gwladol, therapyddion a gwyddonwyr, ond, yn arbennig, gan weld dau feddyg ymgynghorol yn dod allan o'u hysbyty yn rheolaidd i fynychu’r clinigau hynny a bod yn rhan o'r tîm. Mae’r gweithio amlddisgyblaethol hwnnw eisoes yn rhan o realiti. Yn y dyfodol, yr her fydd sicrhau bod y model y mae Dyfodol Clinigol yn ei nodi yn cael ei ddarparu ar sail fwy cyson, ac yn ehangach, ar draws gofal cymdeithasol a’r GIG, fel bod gennym yn wir y gofal iawn ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn.
Ynglŷn â'ch pwynt am 2022, un glec fawr, wel, bydd yn rhaid i ni weithredu system gyfochrog i sicrhau nad yw gwasanaethau yn sydyn yn diflannu, ond, mewn gwirionedd, nid yw’r adleoli ymarferol a symud gwasanaethau yn rhywbeth sydd wedi bod yn rhan o fy mhenderfyniad yn awr. Mewn gwirionedd, mater gweithredol ymarferol yw hwnnw ar gyfer y bwrdd iechyd i'w gael yn iawn gyda’r comisiynau hynny sy'n cyflwyno'r gwasanaethau a gyda'r dinasyddion sy'n cymryd rhan yn y gwasanaethau hynny hefyd. Felly, rwy’n meddwl y byddwch yn gweld rhywfaint o symud graddol, ac, fel ym mhob adeilad newydd, mae'r adeilad ar agor cyn yr agoriad swyddogol er mwyn rhoi cyfle i ddeall yr hyn sydd yn gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio yno. Felly, rwy’n meddwl y byddwch yn gweld, dros gyfnod o amser, proses bontio y gallwn gael rhywfaint o hyder ynddi yn sgil prosiectau blaenorol yn ogystal. Bydd yn rhaid iddi gael ei darparu ar amser, bydd yn rhaid iddi gael ei darparu o fewn y gyllideb—mae hynny'n rhan o'r her caffael yn ogystal, ond yr her hefyd yw sicrhau bod pontio di-dor priodol i’r gwasanaethau hynny ar gyfer staff a’r dinasyddion y maent yn eu gwasanaethu.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a diolch iddo hefyd am ddod i Gwmbrân ddoe, i'r clinig cwympo, i wneud y cyhoeddiad? Rydych yn gywir iawn i nodi ei bod yn gyfle gwych i weld y mathau o wasanaethau sy'n cael eu cyflwyno ar lefel y gymuned wrth i’r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol weithio gyda'i gilydd. Ond roeddwn wrth fy modd eich bod yn gallu gwneud y cyhoeddiad hwnnw ddoe. Mae'n newyddion hynod dda, nid yn unig ar gyfer Torfaen, ond ar gyfer Gwent gyfan ac ar gyfer y de. Rwy'n credu y bydd yn cynnig darpariaeth gofal iechyd o'r radd flaenaf i’r holl gymunedau y mae’n eu gwasanaethu, ond mae hefyd yn darparu sylfaen ar gyfer sicrhau ein bod yn parhau i recriwtio staff o'r ansawdd uchaf i weithio yn yr ysbyty. Felly, y croeso cynhesaf posibl iawn gennyf i i’ch datganiad a'r cyhoeddiad ddoe.
Rwyf eisiau gofyn ychydig o gwestiynau. Ategaf yr hyn y mae Rhun ap Iorwerth wedi’i ddweud am bwysigrwydd caffael, a byddwn yn ddiolchgar pe bai modd i chi roi sicrwydd y byddwch yn cadw llygad barcud ar y materion caffael, fel y gallwn sicrhau, lle bo modd, bod busnesau lleol yn wir elwa ar yr hyn sydd yn fuddsoddiad cyfalaf enfawr yn yr ardal leol. Rydym yn gwybod bod y prosiect wedi llithro o'i amserlen wreiddiol ac rydych yn gwbl ymwybodol o'r rhwystredigaethau sydd wedi bodoli o gwmpas hynny. A gaf i ofyn am eich sicrwydd y byddwch yn cadw llygad barcud ar unrhyw lithro posibl pellach, yn enwedig o ran y ffaith y gallai achosi anawsterau yn awr gyda chontractwyr a oedd wedi eu cytuno, ac ati? Felly, a fyddwch yn cadw llygad barcud ar hyn er mwyn sicrhau bod hyn bellach yn cael ei yrru ymlaen ar fyrder ac nad ydym yn gweld unrhyw lithro pellach yn hyn?
O ran trafnidiaeth, mae’r materion hynny wedi eu codi heddiw, ond, wrth gwrs, roedd astudiaeth helaeth iawn o'r fynedfa i'r safle a chafwyd mai’r safle hwn oedd yr un gorau posibl ar gyfer Gwent a de Powys gyfan. Ond rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni hefyd gadw llygad ar y materion sy'n ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus, nid yn unig, wrth gwrs, ar gyfer y bobl sy'n ymweld â'r ysbyty fel cleifion, ond ar gyfer ymwelwyr. Gwn fod gan y bwrdd iechyd hanes da iawn o hwyluso materion mynediad, felly a gaf i ofyn am eich sicrwydd ar hynny hefyd? Ond, y croeso cynhesaf posibl gennyf i ac, wrth gwrs, gydnabyddiaeth bod y Llywodraeth hon yng Nghymru yn parhau i wneud buddsoddiad enfawr mewn gwasanaethau cyhoeddus ar adeg o galedi mawr a phwysau enfawr. Diolch.
Diolch i chi am eich sylwadau. Fel y dywedais, pendant a dymunol—yn fwy pendant na dymunol mae’n siŵr, weithiau. Ond, na, o ddifrif, mae wedi bod yn bwysig gweld Aelodau lleol yn sefyll i fyny ar ran eu cymunedau dros gyfnod hir ac anodd ac rwyf yn cydnabod hynny. Felly, mae'r penderfyniad yn cael effaith wirioneddol, rydych yn hollol gywir, ac, fel yr wyf wedi ceisio ei wneud yn glir ddoe a heddiw, ar draws y de i gyd—nid penderfyniad Gwent yn unig ydyw. Rydych chi'n iawn i atgoffa'r Aelodau fod yr astudiaeth trafnidiaeth a wnaethpwyd yn ystyried mai hwn yw’r safle mwyaf priodol. Nid ydym yn mynd i fynd yn ôl ac ail-edrych ar hynny eto. Dyma’r penderfyniad. Mae'n ymwneud â sut yr ydym yn gwneud y mynediad hwnnw yn real nawr hefyd, ac rydych yn iawn, wrth gwrs, i nodi mai’r nod yw i gleifion ac ymwelwyr gael mynediad sy'n gyfleus ac yn caniatáu iddynt weld anwyliaid a ffrindiau.
O ran eich pwynt am waith yn cychwyn, mae'n bendant yn fy meddwl i fy mod yn awyddus i’r prosiect hwn fod yn digwydd ac yn weladwy, ac i fodloni’r amserlen a ddarperir o ran ei fod ar waith. Yn wir, nododd prif weithredwr y bwrdd iechyd ddoe ei bod yn credu y bydd y gwaith yn gallu ailddechrau eto ar y safle hwnnw tua gwanwyn y flwyddyn nesaf. Felly, nid yw'n saib hir, hyd yn oed gyda rhywfaint o ail-dendro sydd angen ei wneud. Ond rwyf wir eisiau ail-bwysleisio pwynt a wnewch am gaffael hefyd. Rydym yn gwneud buddsoddiad cyfalaf enfawr, ac fe fydd yn rhaid cael enillion—ac enillion priodol—yn ystod y cyfnod adeiladu, a’r rheiny’n enillion y gall pobl eu deall ac y gall pobl eu gweld. Dylai pobl wybod bod gweithlu lleol yn cael ei ddefnyddio ar y safle, a phrentisiaid lleol. Ceir her yno, yn ymwneud â sicrhau bod digon o lafur yn lleol i allu cyflawni hynny, mewn gwirionedd. Felly, mae'n ymwneud â manteisio i’r eithaf ar y cyfle.
Yn olaf, rwy’n dymuno atgyfnerthu'r pwynt am recriwtio unwaith eto. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i recriwtio pobl i fodel o ofal y mae pobl wedi galw amdano, y mae clinigwyr yn ei gefnogi’n llwyr, ac mae'n ymwneud â gwireddu’r cyfleoedd hynny a sut y mae hynny'n effeithio ar y system gofal iechyd gyfan—rhywbeth sydd yn wirioneddol gydgysylltiedig ac sy’n cael ei hadeiladu ar gyfer y dyfodol, gyda dyluniad a chynllun y mae clinigwyr yn ei gefnogi, ac y mae’r cyhoedd yn ei gefnogi’n llwyr hefyd. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich her barhaus. Mae'n rhan o'r fargen i fod yn y Llywodraeth i orfod ymdrin â chynrychiolwyr lleol, ac rwy'n siŵr bod pobl yn Nhorfaen yn sylweddoli pa mor benderfynol yw’r hyrwyddwr sydd ganddynt.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn gwybod a yw'n ben-blwydd arnoch heddiw ond yn sicr rydych wedi cael llawer iawn o ganmoliaeth, yn y ddadl ddiwethaf ac yn yr un hon. Yr wyf i yn ddiedifar— [Torri ar draws.] Yr wyf i yn ddiedifar yn mynd i barhau yn yr un modd. Diolchaf i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad ar y gwaith o adeiladu’r SCCC hir-ddisgwyliedig yn Llanfrechfa, ac rwy'n siŵr y bydd y newyddion yn cael ei groesawu gan bobl y de-ddwyrain a'r rhanbarthau cyfagos. Rwyf hefyd yn ei longyfarch ar weithredu mor brydlon, o leiaf ar ei ran ef, yn enwedig gan fod hyn mor gynnar yn ei gyfnod fel Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Hoffwn hefyd nodi mewnbwn sylweddol dros nifer o flynyddoedd gan yr AC ar gyfer Torfaen, Lynne Neagle, sydd wedi helpu i sicrhau'r prosiect hwn. Gwn fod y prosiect hwn yn agos iawn at ei chalon. Yn amlwg, hoffwn sôn am fewnbwn Nick Ramsay i’r prosiect hwn yn ogystal.
Fel y nododd yn ei ddatganiad, mae Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan yn awr yn rhydd i weithredu'r prosiect hwn a bwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu cyn gynted ag y bydd yn gyfleus iddynt. Mae hefyd, wrth gwrs, yn rhyddhau’r bwrdd i lunio strategaeth gyflawn ar gyfer gwasanaethau ar draws rhanbarth cyfan y bwrdd. Rwy'n edrych ymlaen at ei weld yn trawsnewid y profiad gofal iechyd cyfan ledled y de-ddwyrain, ond byddwn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, fel y crybwyllwyd gan Lynne Neagle yn gynharach, eich bod yn cadw llygad ar yr hyn sy'n mynd ymlaen a gwneud yn siŵr bod y bwrdd yn cyflawni'r addewidion hyn. Diolch.
Diolch am y sylwadau. Gallaf gadarnhau nad yw'n ben-blwydd arnaf—dim eto, ac mae'n rhaid i mi aros am beth amser er mwyn i hynny ddigwydd eto. O ran y sefyllfa yr ydym ynddi, mae’r Aelodau'n gwneud cyfres o bwyntiau ynghylch yr amser a lle'r ydym yn awr, ond, ar y cyfle y mae’r penderfyniad hwn yn ei gynrychioli, mae'r bwrdd iechyd wedi dweud erioed eu bod nhw am i benderfyniad gael ei wneud a fyddai'n datgloi eu gallu i fynd ymlaen i wneud y cam nesaf o ddatblygu'r cynllun gofal iechyd cyfan: systemau iechyd a gofal yn gweithio gyda'i gilydd. A dweud y gwir, fel y dywedais yn gynharach, rwy’n meddwl bod gan Aneurin Bevan stori dda i'w hadrodd ar eu datblygiad gofal sylfaenol a chymunedol. Maent yn gwneud mwy o symud gwasanaethau allan o'r ysbyty ac i mewn i gymunedau nag y mae rhannau eraill o Gymru wedi’i gyflawni mewn rhai meysydd, yn enwedig ym maes gofal llygaid, a dylai hyn mewn gwirionedd helpu i weld y trosglwyddo hwnnw’n cael ei symud ymlaen ar y cyflymder hwnnw. Felly, rwy'n dal i fod yn obeithiol am y dyfodol ar gyfer yr holl heriau sydd gennym, ond bydd yn rhaid cael, fel y dywedais yn fy natganiad, ymrwymiad gwirioneddol i gyflawni ar gyflymder y diwygio gwasanaethau a’r trawsnewid sy'n angenrheidiol i gyd-fynd â’r penderfyniad hwn.
Hoffwn, yn gyntaf, unwaith eto, longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ar y newyddion pwysig a hanesyddol hwn y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £350 miliwn mewn adeiladu canolfan gofal critigol arbenigol Gwent. Bydd y cyhoeddiad hwn yn cael ei groesawu yn fawr gan fy etholwyr yn Islwyn ac mae'n newyddion gwych i bobl Gwent a thu hwnt.
Mae'r prosiect 460 gwely, a fydd yn gwasanaethu poblogaeth o 600,000, yn atgyfnerthu'r hyn y mae pawb yn ei wybod: sef, pan ddaw at y gwasanaeth iechyd gwladol, y blaid a’i creodd—y Blaid Lafur—yw'r blaid y mae fwyaf diogel yn ei dwylo.
Mae tair blynedd ar ddeg i’w ddatblygu—rhif anlwcus—yn gwneud y penderfyniad hwn yn bwysig iawn, iawn i ni, o dan y chwyddwydr trylwyr o graffu, ond mae'n rhif lwcus i bobl Gwent a’r de-ddwyrain.
Mae dim ond darllen y cyfleusterau y mae'r ganolfan gofal critigol ac arbenigol yn eu darparu yn dangos pam yr oedd y Gweinidog yn iawn ac yn ddewr i roi’r golau gwyrdd i’r prosiect drud hwn ar adeg pan fo Cymru'n wynebu toriadau llym. Bydd yn ymgorffori triniaeth frys ac asesiad mawr gyda gwelyau gofal critigol a gwelyau gofal y galon acíwt. Bydd y gwasanaeth cleifion mewnol yn ymdrin ag achosion mawr, gydag arbenigeddau megis llawfeddygaeth gyffredinol, meddygaeth, orthopedeg, hematoleg a gofal fasgwlaidd. Hefyd yn cael eu cynnwys bydd obstetreg cleifion mewnol, bydwreigiaeth a gwasanaethau dan arweiniad ymgynghorwyr, gynaecoleg, endosgopi brys, pediatreg cleifion mewnol a gofal dwys newyddenedigol, a gallaf fynd ymlaen.
A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet sut y bydd yn galluogi gwneud cysylltiadau trafnidiaeth effeithiol? Ond, cyn hynny i gyd, rwyf hefyd yn dymuno tanlinellu’r teimladau sydd eisoes wedi cael eu cyflwyno. Diolch i chi am y penderfyniad hwn; diolch i Lywodraeth Lafur Cymru, rhoi blaenoriaethau'r bobl gyntaf a sicrhau bod gennym GIG addas ar gyfer ein hoes, addas ar gyfer pobl Gwent a thu hwnt ac addas i Gymru.
Diolch am y sylwadau. Gan fynd yn ôl at y pwynt am drafnidiaeth eto, mae'n fater o bwys i'w gael yn iawn ar gyfer hurio preifat a thrafnidiaeth breifat, yn ogystal â thrafnidiaeth gwasanaeth cyhoeddus, i'r safle, gan feddwl am anghenion cleifion a'u galluoedd a hefyd fynediad i wasanaethau brys. Rwy’n disgwyl bod Aelodau lleol oedd yn cymryd rhan yn uniongyrchol yn eu sgyrsiau gyda'r bwrdd iechyd—rwy’n gwybod eu bod wedi briffio Aelodau lleol; maen nhw'n eithaf rhagweithiol, mewn gwirionedd, yn gwneud yn siŵr bod Aelodau lleol yn cytuno ac yn deall yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd.
Rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn ddefnyddiol i glywed yr ystod eang o wasanaethau yr oedd yr Aelodau yn atgoffa eraill fydd yn awr yn digwydd ar y safle newydd hwn pan gaiff ei gyflwyno. Ond mae'n bwysig cydnabod hefyd fod hwn yn brosiect sydd wedi cynnal cefnogaeth, nid yn unig o fewn y gymuned glinigol, ond gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Ngwent hefyd. Felly, mae'n mwynhau cefnogaeth, ac yn parhau i fwynhau cefnogaeth, yr holl awdurdodau lleol yn ardal Gwent. Ni waeth ble mae wedi ei leoli yn gorfforol, cafwyd cydnabyddiaeth gan yr awdurdodau lleol partner hynny a fydd yn elwa ar gael model sy'n ganolfan gofal arbenigol i gyflwyno model priodol o ofal yn y pen hwn â’r holl wasanaethau o'i chwmpas. Byddaf yn edrych ymlaen at weld hynny’n cael ei gyflawni gan awdurdod lleol partner, gan y gwasanaeth iechyd a rhanddeiliaid ehangach eraill yn ogystal.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.