Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Hoffwn, yn gyntaf, unwaith eto, longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ar y newyddion pwysig a hanesyddol hwn y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £350 miliwn mewn adeiladu canolfan gofal critigol arbenigol Gwent. Bydd y cyhoeddiad hwn yn cael ei groesawu yn fawr gan fy etholwyr yn Islwyn ac mae'n newyddion gwych i bobl Gwent a thu hwnt.
Mae'r prosiect 460 gwely, a fydd yn gwasanaethu poblogaeth o 600,000, yn atgyfnerthu'r hyn y mae pawb yn ei wybod: sef, pan ddaw at y gwasanaeth iechyd gwladol, y blaid a’i creodd—y Blaid Lafur—yw'r blaid y mae fwyaf diogel yn ei dwylo.
Mae tair blynedd ar ddeg i’w ddatblygu—rhif anlwcus—yn gwneud y penderfyniad hwn yn bwysig iawn, iawn i ni, o dan y chwyddwydr trylwyr o graffu, ond mae'n rhif lwcus i bobl Gwent a’r de-ddwyrain.
Mae dim ond darllen y cyfleusterau y mae'r ganolfan gofal critigol ac arbenigol yn eu darparu yn dangos pam yr oedd y Gweinidog yn iawn ac yn ddewr i roi’r golau gwyrdd i’r prosiect drud hwn ar adeg pan fo Cymru'n wynebu toriadau llym. Bydd yn ymgorffori triniaeth frys ac asesiad mawr gyda gwelyau gofal critigol a gwelyau gofal y galon acíwt. Bydd y gwasanaeth cleifion mewnol yn ymdrin ag achosion mawr, gydag arbenigeddau megis llawfeddygaeth gyffredinol, meddygaeth, orthopedeg, hematoleg a gofal fasgwlaidd. Hefyd yn cael eu cynnwys bydd obstetreg cleifion mewnol, bydwreigiaeth a gwasanaethau dan arweiniad ymgynghorwyr, gynaecoleg, endosgopi brys, pediatreg cleifion mewnol a gofal dwys newyddenedigol, a gallaf fynd ymlaen.
A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet sut y bydd yn galluogi gwneud cysylltiadau trafnidiaeth effeithiol? Ond, cyn hynny i gyd, rwyf hefyd yn dymuno tanlinellu’r teimladau sydd eisoes wedi cael eu cyflwyno. Diolch i chi am y penderfyniad hwn; diolch i Lywodraeth Lafur Cymru, rhoi blaenoriaethau'r bobl gyntaf a sicrhau bod gennym GIG addas ar gyfer ein hoes, addas ar gyfer pobl Gwent a thu hwnt ac addas i Gymru.