Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Diolch i Ysgrifennydd Cabinet am yr ymateb hwnnw. Nawr, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod nifer o ymgynghoriadau wedi cael eu cynnal ynglŷn â’r ddarpariaeth uwchradd yn Hwlffordd dros y ddwy i dair blynedd diwethaf, sydd wedi oedi’r broses o wella addysg i blant a phobl ifanc. Mae’n bwysig yn awr fod Cyngor Sir Penfro yn dechrau cyflawni, gan fod y nifer hon o ymgynghoriadau, sydd wedi arwain at oedi enfawr, wedi bod yn niweidiol i ddyfodol plant yn yr ardal. Felly, o dan yr amgylchiadau, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae i sicrhau nad oes unrhyw oedi pellach, a’n bod yn gweld ysgol cyfrwng Saesneg 11 i 19 oed yn cael ei sefydlu yn Hwlffordd cyn gynted ag y bo modd?